Penwythnos Ynys Gwyllt i Deuluoedd

Mae’r digwyddiad hwn yn rhan o’n prosiect Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, Ynys Echni - Cerdded Drwy Amser.

Dyddiad ac amser
Dyddiad(au) - July 24, 2026-July 26, 2026
2:00 pm-4:00 pm

Dewch i fwynhau profiad gwyllt a bythgofiadwy ar Ynys Echni.

Bydd pwyslais y penwythnos hwn ar ddysgu wrth gael llawer o hwyl.  Byddwch chi’n darganfod bywyd gwyllt yr ynys drwy weithgareddau fel pyllau glan môr, hela bwystfilod bach a dal gwyfynod. Efallai y byddwch chi’n ddigon ffodus i weld ein nadroedd defaid a madfallod celgar hyd yn oed. Heb anghofio wrth gwrs drigolion mwyaf amlwg (a swnllyd) yr ynys, y gwylanod!

Gallai gweithgareddau eraill, yn dibynnu ar y tywydd a’r tymor, gynnwys cribinio traethau, dysgu cynnau tân, tân ar y traeth, adeiladu lloches, celf amgylcheddol, llwybr trysor, a darganfod olion ac arwyddion anifeiliaid. Byddwch chi hefyd yn cael archwilio adeiladau hanesyddol diddorol Ynys Echni a phrofi heddwch a thawelwch yr ynys wrth i’r haul fachlud.

Mae’r cwrs yn fwyaf addas i deuluoedd â phlant 7 – 12 oed, ond nid yw hyn yn rheol gaeth – cysylltwch â ni os yw’ch plant yn hŷn neu’n iau a hoffech drafod p’un a fydd y penwythnos yn iawn i chi.

Llety i deuluoedd

Bydd pob teulu, yn dibynnu ar niferoedd, yn cael cynnig un o’r opsiynau llety canlynol naill ai yn ein hostel Ffermdy, neu yn y cae gwersylla cyfagos, bob un â defnydd a rennir o’r toiledau, cawodydd, lolfa a chegin hunanarlwyo yn y Ffermdy.

  • unig ddefnydd o un o’n hystafelloedd gwely yn y ffermdy, gyda gwelyau bync
  • ystafell bâr yn y Ffermdy
  • hyd at bedwar pod cysgu sengl yn ein cae gwersylla, ger y Ffermdy.
  • hyd at bedwar gwely yn ein Iwrt traddodiadol, yn ein cae gwersylla, ger y Ffermdy

Bydd y llety yn cael ei neilltuo ar sail y cyntaf i’r felin


Manylion yr arweinydd
Warden yr Ynys a'r tîm.

Tîm staff yr ynys fydd yn dysgu’r cwrs, sydd i gyd yn brofiadol wrth gyflwyno gweithgareddau o ansawdd uchel i grwpiau teuluol. Trwy fyw a gweithio ar yr ynys maent yn gallu dangos rhai o'i chyfrinachau i chi nad yw ymwelwyr bob dydd yn cael eu gweld.

Rhestr Cyfarpar
HANFODOL Nid oes angen unrhyw offer arbennig DYMUNOL Binocwlars os oes rhai gennych chi (mae gennym ni rai i'w benthyca), a chamera neu ffôn i dynnu lluniau os dymunwch.

Pris : £180

Plant (dan 16 oed) £120



July 24, 2026 2:00 pm.

Rhannu:

Mwy