Gweithdrefn cau’r morglawdd

Gweithdrefn y lociau

Dyma weithdrefn cau’r morglawdd:

  1. Dylai cychod dyfnach na 2.0m gysylltu â Rheoli’r Morglawdd ar Sianel 18 VHF gyda digon o amser o flaen llaw cyn cyrraedd y Morglawdd.
  2. Bydd lociau tuag allan yn digwydd ar yr awr a hanner awr wedi pob awr. Bydd y lociau mewnol yn digwydd am chwarter wedi a chwarter i bob awr.
  3. Gofynnwch am gael dod i mewn neu fynd allan trwy’r lociau drwy Sianel 18 VHF. Rydym yn cadw cofnod o ohebu yng ngorsaf VHF Rheoli’r Morglawdd am resymau gweithredol, hyfforddi, ac iechyd a diogelwch.
  4. Gwrandewch ar Sianel 18 VHF am gyfarwyddiadau ynghylch dod i mewn i’r loc. Cadwch olwg ar yr arwyddion golau sy’n dangos ac unrhyw gyfarwyddiadau a roddir, a chydymffurfiwch â hynny.
  5. Ewch i mewn i’r loc ac angori cyn belled ymlaen â phosib ar y gleter gan ddefnyddio’r clustogau a llinellau clymu addas. Defnyddiwch o leiaf ddwy raff, ar y blaen a’r cefn, a diffoddwch eich injan. Mae’n bosib y bydd angen i chi rafftio at gwch arall, ac oherwydd hyn, byddai o fantais i chi osod rhaffau a chlustogau ar ddwy ochr eich cwch.
  6. Yn y Bae ei hun, dylai morwyr wrando ar Sianelau 16 a 18 VHF.
  7. Dylai cychod sy’n gadael y Bae fonitro Sianel VHF a Sianel 68 South Wales Radio pan fyddant wedi gadael yr Harbwr Allanol.

Diogelwch wrth locio

Er eich diogelwch eich hun, a diogelwch eraill tra rydych yn locio, dilynwch y rheolau canlynol bob amser:

  1. Gwrandewch ar a dilynwch y cyfarwyddiadau y mae staff y Morglawdd yn eu rhoi.
  2. Cadwch draw o gatiau loc sy’n cau neu sydd wedi cau a rhwymwch eich cwch yn ddiogel yn y loc. Rydym yn gollwng symiau mawr o ddŵr i lenwi’r lociau, ac mae hyn yn achosi aflonyddwch..
  3. Darllenwch a dilynwch y cyfarwyddiadau/cyngor ar arwyddion y loc bob amser.
  4. Mewn achos argyfwng, cysylltwch â Rheoli’r Morglawdd ar unwaith ar Sianel 18 VHF neu drwy ffonio 029 2070 0234.
  5. Mae ysgolion y loc ar gyfer eu defnyddio mewn argyfwng neu gan staff yn unig.
  6. Peidiwch ag ail lenwi’r cwch â thanwydd nag ysbydu tra rydych yn y lociau.
  7. Diffoddwch eich injan pan ydych yn y loc.

Fideo lociau Harbwr Caerdydd

Mae’r fideo’n dangos y llwybr ar gyfer cychod sy’n gadael Bae Caerdydd ac yn teithio tuag Aber Afon Hafren.

Goleuadau ac arwyddion

Bydd cyfres o oleuadau’n dangos ym mynedfa loc y Morglawdd. Bydd rhif y loc perthnasol yn dangos dan yr arwydd golau.

Peidiwch â mynd i mewn

Ewch

Ewch i mewn pan mae Rheoli’r Morglawdd yn rhoi cyfarwyddiadaul

Harbwr Allanol

Mae’n bosib y bydd yr arwyddion golau ar y chwith yn dangos wrth fynedfa’r Harbwr Allanol, ac maen nhw’n dwyn yr un ystyr ar gyfer traffig tuag i mewn. Yn ogystal, mae’n bosib defnyddio’r arwyddion canlynol wrth fynedfa’r Harbwr Allanol.

Dim golau: parhewch gyda gofal

3 golau coch yn fflachio: stopiwch ar frys ac arhoswch am gyfarwyddiadau

Ni ddylai cychod angori yn yr Harbwr Allanol heb ganiatâd Rheoli’r Morglawdd. O bryd i’w gilydd, mae’n bosib y bydd rhannau o’r Harbwr Allanol yn sych pan mae’r môr ar drai, felly cynghorir i chi gymryd gofal.