Monitro amgylcheddol

Monitro amgylcheddol

Mae Awdurdod yr Harbwr yn cyflawni ystod o ddyletswyddau yn unol â gofynion Deddf Morglawdd Bae Caerdydd a deddfwriaeth amgylcheddol arall. Mae’r rhain yn cynnwys monitro a chynnal safon cyflwr y dŵr a gwarchod a gwella’r amgylchedd naturiol ac adeiledig.

Mae Awdurdod yr Harbwr wedi derbyn achrediad amgylcheddol ISO14001, sy’n dangos ymrwymiad i ostwng effaith projectau a gweithrediadau ar yr amgylchedd. Mae’r tîm amgylcheddol yn rheoli’r holl faterion sy’n berthnasol i’r amgylchedd ym Mae Caerdydd.

Gallwch lawrlwytho Datganiad Polisi Amgylcheddol Awdurdod Harbwr Caerdydd.

Rhowch wybod am broblemau amgylcheddol drwy ffonio Cyfoeth Naturiol Cymru (24 awr) ar 0300 0653000.

Monitro safon dŵr cemegol

Rydym yn monitro ocsigen wedi hydoddi, lefelau heli, tymheredd, pH a nifer o baramedrau eraill mewn 10 lleoliad yn y Bae. Mae’r mesur yn digwydd bob 15 munud – gweler y data am:

Hydrosphere website

Mae Deddf Morglawdd Bae Caerdydd yn dweud bod rhaid cadw lefelau ocsigen wedi hydoddi dros 5 miligram y litr yn y Bae i gyd. Pennwyd y safon hon er mwyn gwarchod pysgod mudol, megis eogiaid a brithyllod môr sy’n teithio drwy’r Bae ar eu ffordd i ac o’r ardaloedd atgenhedlu yn uwch yn yr afon. Rydym yn mesur lefel yr heli er mwyn sicrhau bod lociau’r Morglawdd a’r llifddorau’n gweithio i atal dŵr y môr rhag dod i mewn i’r Bae. Mae’n bwysig sicrhau ein bod yn cynnal amgylchedd dŵr croyw yn y Bae.

Rydym yn cymryd samplau dŵr yn rheolaidd ac yn eu dadansoddi er mwyn mesur paramedrau safon dŵr eraill, megis metel, halen a maeth.

Monitro safon dŵr biolegol

Gweithiodd yr Awdurdod Harbwr yn agos ag ymgynghorwyr iechyd cyhoeddus o’r Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir a Iechyd Cyhoeddus Cymru i ddatblygu arferion gwaith i leihau’r risgiau iechyd i ddefnyddwyr dŵr.

Mae samplau dŵr bacteriol wedi’u casglu am 19 mlynedd, ac mae’r data o’r rhain wedi arwain at ddatblygu model ansawdd dŵr rhangfynegol. Caiff y model ei redeg yn ddyddiol i ragfynegi ansawdd dŵr ymlaen llaw, a’r allbwn ei ddefnyddio i hysbysu rhanddeiliaid ar ba weithgareddau sy’n bosibl ar y diwrnod hwnnw.

Ewch i weld yr adroddiad safon dŵr diweddaraf

Monitro arall

Rydym yn gwneud gwaith monitro arall o bryd i’w gilydd er mwyn gwella ein dealltwriaeth gyffredinol o amgylchedd y Bae a chynnig gwybodaeth i’r cyhoedd a defnyddwyr y dŵr. Mae Awdurdod yr Harbwr wedi monitro tonnau, olion llongau a’r lli a gwneud arolygon bathymetreg er mwyn helpu amryw o ymchwiliadau a phrojectau.

Ar y dudalen hon
Gweler hefyd...

Monitro amgylcheddol

Gweithrediadau amgylcheddol Bywyd Gwyllt a Chadwraeth Rhagolwg Ansawdd Dwr