Diogelwch

RNLI

I rai, mae bod yn y dŵr, ar y dŵr neu o gwmpas y dŵr yn ddiddordeb angerddol. I eraill, mae’n fywoliaeth. Ac i’r rhai ffodus, mae’r ddau yn wir.

Mae ein cyngor diogelwch yn cwmpasu ystod eang o weithgareddau dŵr i’ch helpu i gadw’n ddiogel ger y glannau. Pa bynnag weithgaredd rydych chi’n ei wneud a waeth pa mor brofiadol ydych chi, gallai cymryd ychydig funudau heddiw i ddeall y risgiau achub eich bywyd.

Mae cyngor ar bob math o weithgareddau, o bysgota i hwylio mewn cychod hwyliau a chychod modur ar gael yn:

rnli.org/safety/choose-your-activity

Ymateb argyfwng

Yn achos argyfwng yn yr Harbwr, pan fo perygl difrifol ac agos i gwch neu berson, cysylltwch â gwyliwr y glannau ar VHF Sianel 16 (neu drwy ffonio 999).

Yn achos digwyddiad morol nad yw’n bygwth bywyd, cysylltwch â Rheoli’r Morglawdd ar unwaith ar VHF Sianel 18 neu drwy ffonio 029 2070 0234.

Tywydd

  • Cofiwch gadarnhau rhagolygon y tywydd cyn hwylio.
  • Cadwch lygad ar y tywydd – peidiwch â chael eich dal.
  • Byddwch yn ymwybodol o’ch cyfyngiadau chi eich hun, eich criw a’ch cwch.

Cychod Tendio

  • Dosbarthwch bwysau’n gyfartal a pheidiwch â gorlwytho eich cwch tendio.
  • Gall cychod tendio ac alcohol fod yn gyfuniad marwol.

Siaced Achub

  • Prynwch siaced achub sy’n addas ar gyfer eich gweithgaredd, gan sicrhau bod ganddo chwiban, golau, strip llachar a’i bod yn cydymffurfio â chanllawiau Cydymffurfiad Ewropeaidd.
  • Dysgwch sut i ddefnyddio’ch siaced neu’ch cymorth hynofedd, gan ei wirio’n gyson yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwyr. l, golau, strip llachar a’i bod yn cydymffurfio â chanllawiau Cydymffurfiad Ewropeaidd.
  • Cofiwch NAD OES gan gymorth hynofedd yr un cynhwysedd a siaced achub, ond gall helpu person i nofio. Cofiwch y cyngor – mae siacedi achub yn da i ddim heb eu gwisgo – bob amser.
  • Mae Awdurdod Harbwr Caerdydd yn argymell i chi wisgo siaced achub bob amser wrth hwylio.