Hanes

Hanes

1830

Mae llawer o hanes Caerdydd ynghlwm wrth y Chwyldro Diwydiannol. Bu’r fasnach lo a haearn a dyfodd ar garlam yn sbardun ar gyfer adeiladu llawer o’r dociau yn y 1830au. Roedd hyn yn cynnwys Doc Gorllewin Bute, y doc cyntaf a agorwyd gan 2il Ardalydd Bute ym 1839 a’r Basn Hirgrwn oedd enw’r fynedfa tua’r môr, agorwyd Doc Dwyrain Bute ym 1855, Basn y Rhath ym 1874, Doc y Rhath ym 1887 a Doc y Frenhines Alexandra ym 1907.

Yn ystod yr amser hwn, tyfodd Butetown a’r dociau o’i chwmpas i fod yn gymuned gosmopolitaidd gyda morwyr o bob cwr o’r byd yn ymgartrefu yng Nghaerdydd. Credir bod pobl o o leiaf 50 cenedligrwydd wedi ymgartrefu yn yr ardal a elwid yn Tiger Bay. Gwnaethant helpu i adeiladu’r dociau, gweithio ar fyrddau’r llongau a helpu gwasanaethu’r ddinas forol hon.

1880

Erbyn y 1880au, roedd Caerdydd wedi trawsnewid o fod yn un o drefi bychain Cymru i fod y fwyaf, ac roedd ei phorthladd yn trin mwy o lo nag unrhyw un arall yn y byd. Ym 1913, y flwyddyn cyn dechrau’r Rhyfel Byd Cyntaf, cyrhaeddodd yr allforio uchafbwynt o 13 miliwn tunnell.  Ar yr adeg hon, yn adeilad y Gyfnewidfa Lo y pennwyd pris glo, ac yma yr arwyddwyd y ddêl £1 filiwn gyntaf!

1940 i 1970

Wedi’r Ail Ryfel Byd fodd bynnag, roedd llai o alw am lo a bu i’r fasnach ryngwladol ddioddef wrth i wledydd eraill ddatblygu eu diwydiannau dur eu hunain. Hefyd, collwyd masnach i borthladdoedd cynwysyddion ac erbyn y 1960au, roedd allforio glo mwy neu lai wedi dod i ben. Ym 1978, caewyd drysau Gwaith Dur East Moors a chollwyd 3,200 o swyddi. Roedd hyn yn ysgytwad arall i dde Caerdydd.

1980

Erbyn y 1980au cynnar, roedd Bae Caerdydd yn ddarn o dir diffaith,  dociau adfail a fflatiau llaid. Roedd y boblogaeth yn dioddef o neilltuo cymdeithasol ac roedd diweithdra’n rhemp.

Y dociau a oedd wedi cyfoethogi’r ddinas, ond wedyn roedd y ddinas wedi eu gwrthod.

1987

Sefydlwyd Corfforaeth Datblygu Bae Caerdydd ym mis Ebrill 1987 i adfywio’r 1,100 hectar o hen ddociau adfeiliedig yng Nghaerdydd a Phenarth.  Roedd yn rhan o Raglen Datblygu Trefol llywodraeth Prydain i adfywio ardaloedd arbennig o ddifreintiedig a dadfeiliedig yng nghanol dinasoedd Prydain.

Ar y dudalen hon
Gweler hefyd...

Hanes

Y Prosiect Adfywio Hanes y morglawdd