Cod diogelwch ac is-ddeddfau morol

Datganiad Cydymffurfio

Mae Awdurdod Harbwr Caerdydd yn cydymffurfio â’r safonau a nodir yng Nghod Diogelwch Morol y Porthladd.

Rydym wedi:

  • Ymgynghori’n eang â defnyddwyr yr Harbwr ac adnabod y prif beryglon sy’n berthnasol i weithredu’r Harbwr. Rydym wedi blaenoriaethu a rhestru’r peryglon a sicrhau ein bod wedi gosod a chofnodi mesurau rheoli risg priodol.
  • Nodi opsiynau pellach a’u gwerthuso er mwyn lleihau’r risg pan roedd yn ymddangos nad oedd y mesurau rheoli risg yn addas. Mae hon yn broses barhaus, ac rydym yn bwriadu cyflwyno unrhyw fesurau eraill sy’n briodol cyn gynted ag y bydd hynny’n ymarferol.
  • Cyflwyno system rheoli diogelwch. Mae hyn yn cynnwys polisïau ar gyfer cynlluniau argyfwng, cadwraeth, yr amgylchedd a rheoli gwasanaethau hwylio a morol er mwyn sicrhau ein bod yn parhau i adnabod, adolygu ac adwerthuso risg wrth ennill profiad gweithredol.
  • Gwneud cynlluniau ar gyfer archwiliad gan berson annibynnol penodedig i gadarnhau mewn adroddiad bod yr Awdurdod yn cydymffurfio â gofynion y Cod.
  • Cyflwyno is-ddeddfau yr ydym yn eu hadolygu er mwyn sicrhau eu bod yn berthnasol ac yn effeithlon.
  • Cyhoeddi Polisi Diogelwch yr Harbwr (24KB PDF)

Is-ddeddfau

Mae Cyngor Sir Dinas a Sir Caerdydd, wrth arfer y pwerau a roddir iddo gan Adran 16 Deddf Morglawdd Bae Caerdydd 1993 ac y mae nawr yn meddu arnynt yn ôl cytundeb a wnaed dan Adran 165 Deddf Cynllunio a Thir Llywodraeth Leol 1980, yn gwneud yr is-ddeddfau canlynol:

Is-ddeddfau Awdurdod yr Harbwr (114KB PDF)

Ar y dudalen hon
Gweler hefyd... Hysbysiadau lleol ar gyfer morwyr

Cod diogelwch ac is-ddeddfau morol

Siop longwyr ac offer môr Gwastraff Adrodd am ddigwyddiadau morol Diogelwch