Y Prosiect Adfywio
Sefydlwyd Corfforaeth Datblygu Bae Caerdydd ym mis Ebrill 1987 i adfywio’r 1,100 hectar o hen ddociau adfeiliedig yng Nghaerdydd a Phenarth. Roedd yn rhan o Raglen Datblygu Trefol llywodraeth Prydain i adfywio ardaloedd arbennig o ddifreintiedig a dadfeiliedig yng nghanol dinasoedd Prydain.
Y datganiad cenhadaeth ar gyfer y Prosiect Adfywio oedd:
Rhoi Caerdydd ar y map rhyngwladol fel dinas forol wych, a gaiff ei chymharu ag unrhyw ddinas o’r fath yn y byd, gan wella delwedd a lles economaidd Caerdydd a Chymru gyfan.”
Er nad oedd Ysgrifennydd Gwladol Cymru ar y pryd, Nicholas Edwards, yn pennu unrhyw derfynau amser ar gyfer oes y Gorfforaeth Ddatblygu, dywedodd y dylai ei phrif amcanion gael eu cwblhau’n sylweddol o fewn 10 mlynedd.
Y pum prif nod ac amcan a nodwyd ar gyfer y Prosiect Adfywio oedd:
- Hyrwyddo datblygiad a darparu amgylchedd gwych lle bydd pobl am fyw, gweithio a chwarae.
- Aduno canol dinas Caerdydd â’i glannau.
- Cyflwyno cymysgedd o ddatblygiadau, a fyddai’n creu ystod eang o gyfleoedd gwaith ac yn adlewyrchu gobeithion a dyheadau cymunedau’r ardal.
- Cyflawni’r safon uchaf o ddylunio ac ansawdd ym mhob math o ddatblygiad a buddsoddiad.
- Sefydlu’r ardal fel canolfan ragoriaeth ac arloesedd gydnabyddedig ym maes adfywio trefol.
Cyflawniadau’r Prosiect Adfywio
Cynhaliwyd y gwaith o adfywio Bae Caerdydd i greu cymysgedd cyflenwol o dai, mannau agored, masnach, hamdden a datblygu diwydiannol. Cyfanswm cost amcangyfrifedig y cynllun oedd £2.4 biliwn, gyda chymhareb trosoledd cyhoeddus/preifat o 1:2. Hynny yw, roedd disgwyl i gyllid y llywodraeth ddenu dwbl y buddsoddiad gan y sector preifat.
Roedd rhai o gyflawniadau sylweddol y prosiect yn cynnwys adeiladu Morglawdd ar draws aber y Bae i greu llyn dŵr croyw 200 hectar; cartrefi newydd, fel y rhai yng Nglanfa’r Iwerydd; a swyddfeydd newydd, gan gynnwys Tŷ Crughywel, sydd bellach yn swyddfeydd i Senedd Cymru.
Roedd y datblygiad hefyd yn creu cyfleusterau masnachol a hamdden, fel y rhai yng Nghei’r Fôr-Forwyn ar lan y dŵr, a Phentref Hamdden Glanfa’r Iwerydd (a elwir bellach yn Ganolfan y Ddraig Goch). Crëwyd llawer o swyddi hefyd gan y Prosiect Adfywio.
Cafodd y Gorfforaeth Ddatblygu ei dirwyn i ben yn ffurfiol ar 31 Mawrth 2000. Amcangyfrifwyd ei fod wedi cyflawni’r canlynol:
New jobs
New Housing Units
Non-residential developments (m2)
Land reclamation (hectares)
Trosglwyddwyd cyfrifoldebau’r Gorfforaeth Ddatblygu i bedwar corff olynol ar 1 Ebrill 2000, sef Cyngor Caerdydd (gan gynnwys Awdurdod Harbwr Caerdydd), Awdurdod Datblygu Cymru, Cyngor Bro Morgannwg a Chyngor Cefn Gwlad Cymru.