Gweithrediadau amgylcheddol
Mae Awdurdod yr Harbwr yn gweithio’n galed i gadw amgylchedd glân, diogel a deniadol. Mae llawer o sbwriel a gweddillion yn dod i lawr gyda’r afonydd, yn enwedig yn ystod cyfnodau o law trwm. Mae’r hwn yn cael ei gasglu bron bob dydd, gyda thua 500 tunnell o sbwriel yn cael ei waredu o’r Bae bob blwyddyn.
Mae’r gweithwyr wedi eu hyfforddi i drin unrhyw ddigwyddiad bychan yn ymwneud â llygredd ac mae trefniadau gyda chontractwyr arbenigol ar gyfer unrhyw broblem fawr yn ymwneud â llygredd. Rydym yn cymryd camau i leihau plâu fel llygod mawr a phryfetach hedfan.
Rydym yn plannu ac yn gwneud gwaith cynnal a chadw yn y meysydd agored cyhoeddus mewn partneriaeth ag adran Gwasanaethau Parc Cyngor Caerdydd.