Ynys Echni

Yn gyfoeth o Fywyd Gwyllt – Yn llawn Hanes

Mae gan Ynys Echni gymeriad unigryw – mae’n lle gwyllt, arunig â golygfeydd godidog o’r Ynys i arfordiroedd Cymru a Lloegr. Gwta ½ milltir o led, mae’r Ynys fechan hon yn dlws cudd ym Môr Hafren. Mae Ynys Echni yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ac yn Warchodfa Natur Leol.

Mae Project Ynys Echni yn gwarchod nodweddion naturiol a diwylliannol yr Ynys, o laswelltir arforol i farics Fictoraidd, o gytrefi adar môr i fynceri rhyfel.

Prosiect Celfyddydau Ynys Echni

Ewch i celf.ynysechni.com lle cewch eich tywys ar fordaith synhwyraidd o amgylch amgylchfyd ynys elfennol ddiarffordd trwy sain ymgollol ddeuseiniol, ffilm, barddoniaeth a map 3D rhyngweithiol.

Mae celf.ynysechni.com yn ddehongliad artist o Ynys Echni, a gomisiynwyd gan Gyngor Caerdydd fel rhan o’r prosiect ‘Ynys Echni – Cerdded Drwy Amser’. Mae’r prosiect wedi cael ei ariannu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol ac mae’n rhedeg o 2018 i 2025.

Ynys Echni – Cerdded Drwy Amser

Ar gyfer y cyfnod rhwng 2021 a 2025, mae Ynys Echni wedi cael arian gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol i gyflawni’r prosiect cyffrous hwn. Mae gan y prosiect dri phrif bartner – Cyngor Caerdydd; y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar; a Chymdeithas Ynys Echni, elusen sy’n cefnogi’r ynys gyda chymorth gwirfoddol.

Mae tri phrif nod i’r prosiect:

  • Natur – rydym am sicrhau bod bywyd gwyllt a chynefinoedd yr ynys yn derbyn gofal cystal â phosibl
  • Treftadaeth – rydym am adfer a chynnal mwy o dreftadaeth adeiledig yr ynys
  • Pobl – rydym am ymgysylltu â chynulleidfa fwy a mwy amrywiol gyda’r ynys a’i straeon, ar yr ynys ac ar y tir mawr, a chynyddu ein hymgysylltiad ar-lein a digidol

Rydym yn cynnal rhaglen amrywiol o weithgareddau ar gyfer unigolion a grwpiau, y gallwch gael rhagor o wybodaeth amdanynt drwy ein dilyn ar y cyfryngau cymdeithasol.

Gallwch ddysgu mwy am yr ynys a’r prosiect drwy wylio’r fideo isod, neu wylio’r fersiwn llawn o’r ffilm.

Archif Ynys Echni

Mae’r Prosiect Archif Ynys Echni, a gynhelir ar Casgliad y Werin Cymru wedi esblygu o ‘Ynys Echni – Cerdded Drwy Amser’, prosiect partneriaeth a ariennir yn hael gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol. Wrth i ‘Ynys Echni – Cerdded Drwy Amser’ ddod i ben yn swyddogol yn hydref 2026, mae ein harchif ddigidol yn etifeddiaeth iddo, ac yn gyfle i gerdded drwy amser yn ddigidol…

Mae mwy o ddeunyddiau yn cael eu hychwanegu at ein harchif yn gyson, gydag o leiaf 700+ yn fwy o eitemau i’w cyhoeddi. Cadwch yn gyfredo lâ chyhoeddiadau newydd ar ein gwefan a’n cyfryngau cymdeithasol.

Byddem wrth ein bodd yn clywed eich straeon ac unrhyw beth sydd gennych i’w rannu! I gyflwyno unrhyw wybodaeth, delweddau, fideos, neu unrhyw beth rydych chi’n meddwl a allai fod yn berthnasol i’r archif, cysylltwch â ni yn cha.archive@cardiff.gov.uk

Social media

Gweld hefyd