Ymweld
Mae tripiau ar gael trwy gydol y flwyddyn i ymweld ag Ynys Echni, o dripiau dydd i arosiadau hirach.
Mae tripiau cwch wedi’u trefnu o flaen llaw i’r ynys sy’n mynd o Gaerdydd sawl gwaith y mis. Mae’r tripiau yn caniatáu hyd at 3 awr ar yr ynys yn dibynnu ar amseroedd y llanw.
Fel arall gallwch deilwra eich ymweliad eich hun os ydych yn mynd mewn grŵp mawr neu os hoffech aros am ddiwrnod hirach neu dros nos.

Ymweliadau dydd
Mae ymweliad dydd byr ag Ynys Echni yn cynnig hyd at dair awr ar yr Ynys a chyfle unigryw i weld cadwraeth, bywyd gwyllt ac adeiladau hanesyddol Ynys Echni.
Gellir trefnu i hwylio i’r Ynys am ddiwrnod gyda’r gweithredwyr canlynol
Mae ffi glanio o £5.00 i oedolion a £2.50 i blant yn daladwy i’r warden wrth gyrraedd yr ynys.
Cysylltwch â’r gweithredwyr cychod i holi am brisiau teithiau cwch.
Arosiadau dros nos / ymweliadau preswyl
- Mae llety ystafelloedd cysgu ar gael yn ffermdy ein canolfan faes y gall hyd at 24 person gysgu ynddo (ystafelloedd gyda 2, 10 a 12 gwely).
- Cewch wersylla ym nghaeau’r tŷ fferm pan fo’r llety ystafelloedd cysgu’n llawn (ni ddarperir pebyll).
- Mae Fog Horn Cottage, sy’n adeilad rhestredig gradd II, wedi’i drawsnewid yn fwthyn hunan-arlwyo ac mae ynddo dair ystafell wely fodern a dwy ystafell gawod. Mae gan y bwthyn cartrefol ei ardd ei hun gyda BBQ cerrig a golygfeydd ysbrydoledig.
Wedi’i ddodrefnu mewn partneriaeth â John Lewis Caerdydd, dyma’r lle delfrydol i ddianc rhag bywyd bob dydd.
I drefnu ymweliad preswyl cysylltwch â;
Swyddfa Drefnu Ynys Echni
Awdurdod Harbwr Caerdydd
Tŷ’r Frenhines Alexandra
Cargo Road
Bae Caerdydd
CF10 4LY
Ffôn: 029 2087 7912
E-bost: flatholmproject@cardiff.gov.uk
Ffacs: 029 2087 7901
Tâl Glanio
Oedolyn: £5
Plentyn: £2.50
Ymweliadau Preswyl:
Oedolyn: £19 per night
Plentyn: £16 per night
Tâl Gwersylla:
Oedolyn: £8 per night
Plentyn: £7 per night
Gwybodaeth ychwanegol i ymwelwyr
- Mae angen oedolion i oruchwylio grwpiau o blant. Mae nifer yr oedolion sydd eu hangen yn amrywio, gan ddibynnu ar ba fath o ymweliad ac oedran y plant. Cysylltwch â ni am fanylion.
- Mae angen i grwpiau gyflenwi eu bwyd eu hunain
- Nid ydym yn cynnig consesiynau i’r henoed , myfyrwyr neu bobl ddi-waith.
- Ni chaniateir cŵn ar yr Ynys.