Ynys Echni

Gwirfoddoli

Mae’r tîm yn cynnwys dau aelod o staff sy’n gweithio yn y swyddfa ac un warden sy’n gweithio ar yr ynys.

Mae’r tîm yn cael cefnogaeth gan hyd at chwe gwirfoddolwr ar unrhyw adeg. Mae ymrwymiad o chwe mis yn ddelfrydol ac nid oes angen unrhyw brofiad arnoch. Os oes gennych ddiddordeb mewn gweithio am gyfnod byrrach, dylech gysylltu â’r swyddfa dir yn yr un modd.

Diddordeb mewn gwirfoddoli?

Os oes gennych ddiddordeb mewn gwirfoddoli gyda ni, darllenwch y wybodaeth isod ac anfonwch eich CV a llythyr eglurhaol atom i: projectynysechni@caerdydd.gov.uk

Er na allwn gynnig tâl i wirfoddolwyr, rydym yn cynnig:

• bwyd a llety a rennir sylfaenol

• help gyda chostau teithio

• hyfforddiant allanol (Cymorth Cyntaf, cwrs torri a thocio coed Lantra)

• hyfforddiant mewn swydd (peiriannau, codi waliau cerrig, arwain teithiau, addysg)

• profiad amhrisiadwy mewn amrywiaeth eang o dasgau, gyda chyfradd llwyddiant ardderchog o ran gwirfoddolwyr sy’n mynd ymlaen i gael swydd â chyflog.

Fel gwirfoddolwyr byddwch yn cymryd rhan ym mhob agwedd ar waith yr Ynys o ddydd i ddydd, yn cynnwys:

• cofnodi a monitro bywyd gwyllt

• gwaith rheoli cynefinoedd ymarferol

• arwain teithiau tywys i ymwelwyr

• cynnal adeiladau rhestredig

• cadw a rheoli stoc

• arwain partïon gwaith gwirfoddol

• gwybodaeth am y gwyddorau amgylcheddol/naturiol neu reoli cefn gwlad

• brwdfrydedd

• hyblygrwydd

• sgiliau cyfathrebu

• ymrwymiad

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â swyddfa Ynys Echni ar:

Ffôn: (029)208 77912

E-bost: projectynysechni@caerdydd.gov.uk

Cymdeithas Ynys Echni

Oes gennych chi ychydig oriau’n rhydd bob wythnos, mis neu flwyddyn? Oes gennych chi sgiliau DIY neu arddio i’w cynnig? Hoffech chi gael eich hyfforddi i fod yn dywysydd, bod ar bwyllgor neu helpu i godi arian? Beth bynnag sydd gennych i’w gynnig, hoffem glywed gennych.

Sefydlwyd Cymdeithas Ynys Echni i hyrwyddo a chynorthwyo Prosiect Ynys Echni. Mae aelodau’r gymdeithas yn ffurfio gweithgorau, yn gweithredu fel tywyswyr ar yr ynys, yn codi arian ac yn helpu gyda thasgau cysylltiedig, a hefyd yn cefnogi digwyddiadau cymdeithasol ar y tir mawr.

 

Aelodaeth o Gymdeithas Ynys Echni

Bob blwyddyn bydd aelodau’r gymdeithas yn derbyn manylion digwyddiadau sydd i ddod ac mae ein cylchlythyr blynyddol yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau am weithgareddau’r gymdeithas. Cost tanysgrifiad blynyddol i fod yn aelod o Gymdeithas Ynys Echni yw £15.

I gael rhagor o fanylion am y Gymdeithas a sut gallwch chi wirfoddoli ar Ynys Echni, cysylltwch â’r Ysgrifennydd yn flatholm.society@gmail.com

Newyddion: Mae gan Gymdeithas Ynys Echni wefan: www.flatholmsociety.org.uk/

 

Mae Cymdeithas Ynys Echni yn elusen gofrestredig (Rhif Cofrestru. 1000899)

Gweld hefyd