Hanes yr Ynys
Mae hanes hir i Ynys Echni. Yr ymwelydd cyntaf â’r ynys oedd Cadog Sant. Ymwelodd â’r ynys yn rheolaidd ar ddiwedd y 6ed ganrif i fyfyrio, yn enwedig yn ystod y Grawys.
Yn ystod y 18fed ganrif, sylwodd y smyglwyr fod yr ynys mewn lleoliad delfrydol iddyn nhw. Honnwyd fod hen dwll mwyngloddio yng ngogledd yr ynys yn cysylltu â chyfres o dwneli naturiol, a dihangfa gudd i’r moroedd. Er bod Ynys Echni i’w gweld yn glir o arfordiroedd Cymru a Lloegr, ni allai awdurdodau’r tollau wneud dim gan nad oedd ganddyn nhw gwch i’w cludo i’r ynys. Yn ôl pob sôn, defnyddiwyd ogof fach yng nghraig ddwyreiniol Ynys Echni i storio nwyddau anghyfreithlon, yn arbennig te a brandi.
Ar 13 Mai 1897, gwnaeth dyfeisiwr Eidalaidd 22 oed o’r enw Guglielmo Marconi, gyda chymorth un o beirianwyr Swyddfa Bost Caerdydd, George Kemp, lwyddo i drawsyrru’r signalau diwifr cyntaf dros y dyfroedd o Ynys Echni i Drwyn Larnog ger Penarth.
Ar ôl methu â pherswadio llywodraeth yr Eidal i gefnogi ei broject, daeth Marconi â’i system delegraffiaeth i Gymru. Cododd fast trawsyrru 34m o uchder ar Ynys Echni, yn ogystal â mast derbyn 30m o uchder ar Drwyn Larnog. Methodd y cynnig cyntaf, ond ar 13 Mai cododd y mast i 50m a derbyniwyd y signalau’n glir. Y neges a anfonwyd drwy God Morse oedd “Ydych chi’n barod?”; mae’r papur Morse gwreiddiol, wedi’i lofnodi gan Marconi a Kemp, bellach yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru.
Mae Ynys Echni yn rhan o Blwyf y Santes Fair yng Nghaerdydd, ac yn rhan annatod o hanes Caerdydd.
Credir i lafn y fwyell a ddarganfuwyd ar yr ynys ddod o’r Oes Efydd hwyr, 900 i 700 cyn Crist. Yn absenoldeb unrhyw dystiolaeth archeolegol arall, ni wyddir a oedd yr ynys wedi ei phoblogi ar y pryd. Galwai’r Eingl-Sacsoniaid Ynys Echni yn ‘Bradamreolice’ ac Ynys Ronech yn ‘Steopanreolice’, sy’n cadarnhau cysylltiadau crefyddol yr ynysoedd gan fod ‘reolice’ yn deillio o air Gwyddelig â’r ystyr ‘mynwent’ neu ‘gladdfa’.
Sant Cadog oedd yr ymwelydd cyntaf y gwyddir amdano i ymweld â’r ynys. Ymwelai’n gyson â’r ynys yn ystod y 6ed ganrif, am gyfnodau o fyfyrio tawel, yn enwedig dros gyfnod y Grawys. Bu Gildas, Barruc a Gwalches, oll yn ddisgyblion i Sant Cadog, yn ymweld â’r ynys hefyd. Roedd Gwalches a Barruc yn dychwelyd o Ynys Echni ar ôl cael eu gyrru yno gan St Cadoc i nôl llyfr a anghofiwyd ar ymweliad blaenorol, pan drödd y cwch ac fe foddon nhw. Golchwyd corff Barruc i’r lan ac fe’i claddwyd ar Ynys y Bari, tra cariwyd corff Gwalches i Ynys Echni ac fe’i claddwyd yno.
Yn y flwyddyn 918, yn dilyn eu trechu can y Sacsoniaid yn Watchet, bu’r Daniaid yn llochesu ar ynysoedd Steopanreolice a Bradanreolice, ond ni wyddir am ba hyd.
O’r Anglo-Saxon Chronicle:
“918 – In this year a great naval force came over here from the south of Brittany, and two earls, Ohter and Hroald with them. And they went west round the coast so that they arrived at the Severn estuary and ravaged in Wales everywhere along the coast, where it suited them… Yet they stole inland by night on two occasions – on the one occasion east of Watchet, on the other occasion at Porlock. Then on both occasions they were attacked, so that few of them got away – only those who could swim out to the ships. And then they remained out on the island of Flatholme until they became very short of food and many men had died of hunger because they could not obtain any food. Then they went from there to Dyfed, and from there to Ireland; and this was in the autumn.”
Mae cofnod arall yn yr Anglo-Saxon Chronicle yn nodi:
“1067 – And Gytha, Harold’s mother, and many distinguished men’s wives with her, went out to Flatholme and stayed there for some time and so went from there overseas to St. Omer.”
Deillia’r enwau ‘Holm’ neu ‘Holme’ o’r gair Sgandinafaidd am ynys ar afon, ac er ei bod hi’n bosibl nad arhosodd y Daniaid ar un o’r ynysoedd yn hir, yn sicr fe ddefnyddion nhw Ynys Echni ac Ynys Ronech yn gymorth mordwyo yn ystod eu hymosodiadau ar aber yr afon Hafren
Gwelwyd y cynnau tân cyntaf yno ar 1 Rhagfyr 1737. Dim ond golau o fasged tân-glo ydoedd, y glo’n cael ei gario gan y ceidwaid o’r storfeydd i ben y tŵr. Byddai’r golau yn llosgi llawer o lo a glaniai 25 tunnell ar yr ynys bob mis.
Yn 1819 cytunodd Tŷ’r Drindod i gymryd y tŵr oddi ar William Dickenson am weddill y lês a dechrau gwneud newidiadau. Addaswyd y tŵr carreg crwn enfawr i wneud sylfaen addas i lusern gyda lamp olew ynddi. Dangoswyd y golau gwyn sefydlog newydd hwn ar 7 Medi 1820. Codwyd y llusern 5 troedfedd yn uwch yn 1825, a gosodwyd llusern newydd 14 troedfedd o ddiamedr yn 1867, a oedd yno tan y trawsnewid golau i drydan yn 1969.
Yn 1881, trawsnewidiwyd y golau yn olau diffoddol drwy osod peirianwaith cloc, ac erbyn hyn mae ganddo batrwm nodweddiadol o olau gwyn a choch yn fflachio deirgwaith bob deg eiliad, hyd at bellter o 21 milltir. Yn 1997, trawsnewidiwyd y golau i redeg ar bŵer yr haul
Adeiladwyd gorsaf y corn niwl yn 1908. Gosodwyd y corn awyr cywasgedig grymus mewn un adeilad, tra darparai fwthyn le byw ychwanegol i’r ceidwaid. Yn 1929 daeth y goleudy’n orsaf yn y graig, y ceidwaid cyn hynny wedi byw gyda’u teuluoeddd yn y ddau fwthyn wrth droed tŵr y goleudy. Aeth yr adeiladau hyn wedyn yn ddiwerth ac fe’u dymchwelwyd. Yn y blynyddoedd mwy diweddar, gofalwyd am y goleudy gan ddau set o dri cheidwad, yn gweithio un mis yn y goleudy wedi ei ddilyn â mis ar y tir mawr.
Yn 1860 argymhellodd y Comisiwn Brenhinol i Ynys Echni ffurfio rhan o “system amddiffyn strategol arfordirol ar gyfer Môr Hafren” oedd yn cynnwys Brean Down, Ynys Ronech a Larnog. Dechreuodd y paratoi ar gyfer adeiladu’r gaer ar Ynys Echni yn 1865, a’i gwblhau yn 1869. Er gwaetha’r miliynau a wariwyd, ni fu unrhyw ymosodiad erioed.
Oherwydd y tirwedd cymharol isel ac agored, codwyd Cerbydau Moncrieff Disappearing ar Ynys Echni. Roedd pob un o’r cerbydau hyn yn cario gwn 7” Rhigol Blaen Lwytho, yr olaf o’r blaen lwythwyr, ac fe’u gosodwyd mewn pyllau crwn neu siâp-u wedi’u hadeiladu o galchfaen a bric.
Roedd yr ysgytwad a achoswyd gan saethu’r belen-dân 115 pwys yn gwthio’r gwn i lawr i’r pwll. Tra’n y safle ar-i-lawr hwn, ail-lwythwyd y gwn, ac yna, gyda chymorth gwrthrych gwrthbwyso mawr, fe’i codwyd yn barod i saethu unwaith eto. Nid yn unig roedd hi’n anodd i ynnau llongau’r gelyn leoli’r fath fagnelfa, a dyfalu pa mor bell ydoedd, ond hefyd gwarchodwyd y criwiau oddi mewn i’r pwll tra’n gweithio’r gwn. Fodd bynnag, dim ond mewn profion y taniwyd y gynnau, ac ni wireddwyd eu potensial llawn.
Gosodwyd naw o’r gynnau hyn ar yr ynys mewn pedair magnelfa: y Goleudy, y Ffynnon, y Ffermdy a Magnelfa’r Castell. Darparwyd arfdŷ i bob magnelfa. Yn anffodus, roedd hi’n gymharol hawdd i ddatgymalu’r cerbydau, ac maent wedi eu tynnu oddi yno, ond mae’r rhan fwyaf o’r gynnau dal ar yr ynys er gwaethaf sawl ymdrech i’w casglu ar gyfer sgrap, heb eu blaenau’n ddigon aml.
Integreiddiwyd Magnelfa’r Goleudy ar bwynt uchaf yr ynys gyda amddiffynfeydd yn amgáu’r barics, adeiladau gweinyddol a’r goleudy. Roedd y cadarnle yn cynnig amddiffyniad wrth gefn pe bai gelyn yn glanio. Torrwyd y ffos ddofn yn y graig drwy ddilyn nam daearegol naturiol, ac fe’i gwarchodwyd gan ragfur paralel cryf. Gorwedda magnelfa a thir Tŷ’r Drindod o gylch y goleudy yn rhan ddeheuol y cadarnle. I’r gogledd mae’r bloc barics, dyddiedig VR 1869, yr adeiladau gweinyddol a stôr ddiogel sydd â safle gorymdeithio o’i chwmpas. Roedd y rhain yn darparu cwarteri i’r hanner cant o filwyr oedd eu hangen yn y pedair magnelfa, ond dim ond un Prif Ynnwr a phum gynnwr fu ar yr ynys erioed. Adeiladwyd safle dal dŵr teilsiog trawiadol oedd yn gwyro i lawr tuag at danc dŵr tanddaearol. Defnyddir y tanc hwn hyd heddiw i gasglu dŵr glaw i gyflenwi dŵr i’r ynys.
Ar ôl methu ag ennyn diddordeb Llywodraeth yr Eidal, daeth Guglielmo Marconi, dyfeisiwr un ar hugain oed, â’i system telegraffiaeth i Brydain. Fe’i cyflwynwyd i William Preece, Cymro oedd yn ffigwr amlwg yn y maes, ac yn Brif Beiriannydd y Swyddfa Bost Gyffredinol. Wedi arddangos ei system telegraffiaeth fflach diwifr yn llwyddiannus ar Wastadedd Salisbury ym Mawrth 1897, daeth i Ynys Echni gyda’i gynorthwyydd, George Kemp, ym mis Mai.
Ym Mai 1897 fe wnaeth Kemp a Marconi drosglwyddo’r negeseuon diwifr cyntaf dros y môr, o Ynys Echni i Bwynt Larnog, a ardystiwyd gan yr Athro Slaby ar ran Y Kaiser, ymysg eraill. Danfonwyd y slip morse “Are you ready?” ar 13 Mai, ac fe’i arwyddwyd gan Signor Marconi a George Kemp.
Yn 1883 defnyddiwyd Ynys Echni fel ysbyty ynysu er mwyn arbed y tir mawr rhag epidemig colera.
Yn 1892, ar ôl achos difrifol o golera yn Hambwrg, darganfuwyd pum llong wedi eu heintio yn angori oddi ar Ynys Echni. Symudwyd y cleifion i ysbyty Ynys Echni.
Y flwyddyn ganlynol, cafwyd achos o colera unwaith eto, ac aed â dau glaf arall i’r ysbyty. Roedd yr adeilad bychan yn profi i fod yn annigonol a phenderfynwyd bod angen ysbyty mwy sylweddol. Yn 1896, adeiladwyd ysbyty newydd. Yn y prif adeilad, roedd dwy ward chwe gwely, tra gwnaed gwelliannau i’r adeilad a addaswyd er mwyn darparu pedwar gwely ychwanegol. Adeiladwyd amlosgfa bren a golchdŷ yn ogystal.
Condemniwyd yr adeilad gan yr Adran Iechyd yn 1935
Dechreuwyd ar y gwaith o wneud Ynys Echni yn gadarnle yng ngwanwyn 1941, a gwnaed y prif waith adeiladu ar safleoedd y gynnau drwy gydol 1942.
Gosodwyd dros 350 o filwyr wedyn ar Ynys Echni. Sefydlwyd dwy fagnelfa o dan Orchymyn Gwrthawyrennol (AA). Yn y ddwy roedd dau wn AA marc 2, 4.5 modfedd, gorsaf gorchymynion a goleuadau chwilio bob ochr. Roedd gynnau Bofor a Lewis yn atgyfnerthu arfogaeth yr AA..
Wedi ei ymgorffori i gynllun y Fagnelfa Ddeheuol roedd y “Benger Goalpost”.fel y’i llysenwir erbyn hyn. Roedd yr Uwchgapten D. Benger, a oedd yng ngofal Magnelfa 146 yr Arfordir, yn poeni bod ei wn rhif 2 yn rhy agos i’r Goleudy. Roedd yna gryn berygl y gallai’r gwn saethu pen y tŵr i ffwrdd. Gwnaeth yn siŵr bod ffrâm 2” o bibellau dur yn cael ei chodi, oedd yn gorfodi’r gwn i fyny, gan osgoi’r perygl felly.
Roedd lein reilffordd fach gul, wedi ei gwneud – yn ddigon anghyffredin – o adeiladwaith Almeinig y Rhyfel Byd Cynta, yn cario locomotifau a wagenni disel i gario ffrwydron, deunyddiau a bwydydd ar hyd yr ynys.
Yng nghanol yr ynys roedd platfform Radar, lle’r oedd y caban derbyn radar symudol, gyda therfyn ffug wedi ei wneud o rwydi weiar o’i gylch. Gwnaed defnydd llawn o’r Barics Fictoraidd, a thra newidiwyd un ward o fod yn Ysbyty Colera i fod yn NAAFI, newidiwyd y llall i fod yn sinema a neuadd cyngerdd, gyda ystafell daflunio. Dangoswyd ffilm bob pythefnos bron, a chynnal parti cyngerdd bob mis. Aeth y ffermdy’n ystafell ar gyfer Swyddogion.
Aeth Ynys Echni’n anweithredol yn Rhagfyr 1944. Yn 1945/6 symudwyd y rhan fwyaf o’r offer fu ar yr ynys yn ystod cyfnod y fyddin gan garcharorion rhyfel Almeinig.