Ynys Echni

Digwyddiadau Ynys Echni

Beth am fanteisio ar y cyfle i brofi bywyd ar ynys drwy un o’n digwyddiadau dydd, ar neu oddi ar yr ynys, neuar arhosiad preswyl byr?

Mae’n brofiad unigryw a gwerth chweil os ydych chi’n barod am her ac antur bywyd ar ynys fach bellenig.  Gan aros mewn llety ar ffurf hostel yn ein Ffermdy sydd wedi’i addasu byddwch yn byw ac yn dysgu gyda’ch gilydd mewn grwpiau bach gyda’n harweinwyr a’n tiwtoriaid profiadol.

Mae Ynys Echni yn lle i ddianc rhag bywyd bob dydd, yn lle i greu atgofion parhaol, dysgu sgiliau newydd a chreu cyfeillgarwch parhaol.

Mae’r digwyddiadau hyn yn rhan o’n prosiect Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, Ynys Echni – Cerdded Drwy Amser.

Beth sy’n cael ei gynnwys:

Mae ein prisiau’n cynnwys trafnidiaeth cwch dwyffordd, llety, a hyfforddiant / gweithgareddau a gynhelir gan diwtoriaid profiadol neu ein staff ar yr ynys. Mae unrhyw incwm dros ben yn mynd yn ôl i gynnal treftadaeth naturiol ac adeiledig yr ynys.

Mae’r holl ddigwyddiadau’n rhai HUNAN-ARLWYO oni nodir yn yr adran manylion y digwyddiad – cewch ragor o fanylion pan fyddwch yn gwneud ymholiad archebu.
Sylwch, oherwydd y rhennir ein llety, fod y cyrsiau ar gyfer oedolion (18+) ac eithrio’r cyrsiau teuluol. Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen ein gwybodaeth lawn am archebu ymlaen llaw.

Gweld hefyd