Ynys Echni

Gwybodaeth bwysig am archebu ymweliadau preswyl o flaen llaw

Cyflwyniad

Darllenwch yr holl wybodaeth ganlynol am aros ar Ynys Echni yn ofalus i wneud yn siŵr mai dyma’r peth iawn i chi.  Mae’n brofiad unigryw a gwerth chweil os ydych chi’n barod i dderbyn rhai o’r heriau y mae bywyd ar ynys anghysbell fach yn eu creu.  Mae Ynys Echni yn lle i ddianc rhag bywyd bob dydd, yn lle i greu atgofion parhaol, dysgu sgiliau newydd, a chreu cyfeillgarwch parhaol.

Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau sydd heb eu hateb yma, cysylltwch â ni ar 02920 877900.

Trafnidiaeth

Y man ymadael ar gyfer teithiau preswyl i’r ynys fydd o Bontŵn y Safle Bws Dŵr yn Ne’r Morglawdd, sydd ger y maes parcio cyhoeddus yn CF64 1TP gyferbyn â bwyty’r Old Custom House. Byddai’n ddelfrydol pe gallech drefnu i gael eich gollwng a’ch codi yn y man ymadael neu gyrraedd ar drafnidiaeth gyhoeddus.  Yr orsaf reilffordd agosaf yw Cogan, tua 20 munud i ffwrdd wrth gerdded.  Y gwasanaeth bws agosaf yw Llwybr 89b Adventure Travel sy’n stopio y tu allan i Fwyty’r Old Custom House.

Fodd bynnag, os byddwch yn dod yn eich car eich hun, bydd parcio am ddim drwy gydol eich arhosiad naill ai ym maes parcio cyhoeddus y Morglawdd neu ar ochr ffordd Morglawdd Caerdydd – bydd manylion ar gael wrth archebu. Sylwer, er bod staff yn bresennol 24 awr y dydd yn adeilad Rheoli’r Morglawdd, a CCTV ar waith, ni allwn warantu diogelwch cerbydau na derbyn unrhyw atebolrwydd am golled neu ddifrod i gerbydau neu eu cynnwys.

Fel arfer bydd y daith i’r ynys mewn cwch RIB  cyflym â seddi i 12 o deithwyr. Trydydd parti sy’n darparu cludiant y cwch a nodwch, am resymau Iechyd a Diogelwch, bod yr amodau canlynol yn berthnasol:

“NID yw teithiau Bay Island Voyages yn Reidiau Cyffro  Fodd bynnag, oherwydd natur symudadwy’r cychod, ni fydd y canlynol yn cael cymryd rhan: unrhyw un sydd â chyflyrau sy’n bodoli eisoes fel poen cefn, poen yn y gwddf, anafiadau blaenorol y gellid eu gwaethygu gan unrhyw symudiadau sydyn, neu os ydych chi’n feichiog.

Rydym yn cadw’r hawl i wrthod cario unrhyw un sydd dan ddylanwad cyffuriau neu alcohol.  Gofynnwn hefyd, os oes gennych unrhyw gyflyrau meddygol sy’n bodoli eisoes, er enghraifft epilepsi, rhowch wybod i ni cyn teithio fel y gallwn fod yn ymwybodol ohonynt.

Er ein bod yn ddarparwr cynhwysol, diogelwch ein teithwyr sy’n dod gyntaf.  Mae cyfyngiadau ar fynediad i’r cychod, felly gofynnwn i unrhyw un sydd ag anabledd corfforol gysylltu â ni cyn archebu, er mwyn sicrhau ein bod yn gallu eich cael ar fwrdd y cwch yn ddiogel.”

Am ragor o wybodaeth a Chwestiynau Cyffredin yn ymwneud â’r daith cwch, ewch i:  Bay Island Voyages | Ymwadiad a TacAau

 

 

Hygyrchedd yr Ynys

Mae gan yr ynys risiau carreg a choncrid anwastad i ddringo o’r man lle mae’r cwch yn glanio, sydd weithiau’n llithrig, felly mae angen bod yn weddol ffit i fynd i’r ynys. Mae ‘na ganllaw i gynorthwyo. Unwaith y byddwch ar yr ynys mae’r rhan fwyaf o lwybrau troed yn gymharol wastad ond gall rhai fod  yn anwastad gyda thwmpathau glaswellt a thyllau cwningod mewn mannau.  Mae’n flin gennym ddweud nad yw’r daith cwch nac isadeiledd yr ynys yn addas i bobl sy’n defnyddio  cadair olwyn ar hyn o bryd.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch hygyrchedd, cysylltwch â ni ar 02920 877900.

Y tywydd

Am resymau diogelwch ni all cychod deithio i’r ynys o dan amodau penodol yn ymwneud â’r gwynt, y llanw, a’r tonnau. Mae’r penderfyniad terfynol ar hyn yn nwylo capteiniaid hynod brofiadol y cychod.  Tra’n bod ni’n ymdrechu i roi isafswm o 24 awr o rybudd i bobl, yn anffodus, oherwydd natur safle’r ynys gall teithiau gael eu canslo neu eu gohirio ar fyr rybudd.

Mae’n bosib hefyd, er bod hyn yn ddigwyddiad prin, na ellir dychwelyd o’r ynys gan olygu bod yn rhaid i  ymwelwyr aros arni nes bod yr amodau’n gwella digon i gwch eu cludo’n ôl i’r tir mawr. Dylech fod yn ymwybodol o hyn cyn archebu ac osgoi gwneud unrhyw apwyntiadau tyngedfennol yn syth ar ôl taith oedd wedi’i chynllunio.

Sylwer y byddwn yn darparu bwyd o stociau argyfwng yr ynys mewn digwyddiad o’r fath ac ni chodir unrhyw gost ychwanegol arnoch nac am ddefnydd parhaus o’r llety.

Canslo

Rydym yn cadw’r hawl i ganslo’r digwyddiad o dan yr amgylchiadau canlynol:

  • Dim digon o archebion i wneud y digwyddiad yn hyfyw yn ariannol
  • Tywydd sy’n golygu nad oes modd mynd ar y cwch
  • Methiant pŵer, dŵr neu systemau cymorth critigol eraill yr ynys
  • Amgylchiadau annisgwyl eraill sy’n gwneud y digwyddiad yn anniogel neu’n anhyfyw

Ym mhob achos o’r fath byddwn yn ymdrechu i drefnu dyddiad arall ar gyfer y digwyddiad, a bydd gennych ddewis i naill ai drosglwyddo eich archeb i’r dyddiad newydd hwnnw neu dderbyn ad-daliad llawn o ffi eich digwyddiad.

Sylwch na allwn gael ein dal yn gyfrifol am unrhyw gostau cysylltiedig a ysgwyddwyd gennych chi mewn perthynas â’r digwyddiad, er enghraifft teithio i’r digwyddiad ac oddi yno – rydym yn argymell eich bod wedi eich yswirio’n ddigonol gan eich yswiriant teithio yn erbyn amgylchiadau o’r fath.

Cansladau gennych chi

Os ydych chi am ganslo eich archeb hyd at 4 wythnos cyn y digwyddiad, yna mae gennych hawl i gael ad-daliad llawn o’r ffioedd a dalwyd. Os byddwch yn canslo llai na 4 wythnos cyn y digwyddiad, yna mae’n ddrwg gennym na allwn ad-dalu ffioedd, onibai bod eich lle yn cael ei ailwerthu.

 

Cŵn

Yn anffodus, ni chaniateir cŵn ar yr ynys oherwydd nythfa’r adar môr sy’n nythu ar y ddaear, a chyfyngiadau teithio mewn cychod.

 

 

Bywyd ar Ynys Echni – beth i’w ddisgwyl

Yn sicr, mae bywyd ar yr ynys yn brofiad gwahanol i fyw ar y tir mawr, ac mae hyn yn rhan annatod o’i swyn unigryw.  Mae llawer o ymwelwyr wedi sôn am ba mor adfywiol oedd hi i gael dianc o’r byd a’i bethau, a phrofi bywyd symlach ar yr ynys.

Cyfleusterau

Mae llety yn sylfaenol ond yn gyfforddus mewn ystafelloedd cysgu a rennir yn y Ffermdy sy’n gwasanaethu fel canolfan astudio breswyl ac fel canolfan i staff yr ynys – cewch ail-fyw’r tripiau ysgol hynny! Mae gan yr adeilad lolfa gyfforddus gyda llyfrau a gemau bwrdd, cegin â chyfarpar da, ystafell fwyta, ystafell sychu, a thoiledau a chawodydd i ddynion a menywod.   Y tu allan mae gardd furiog Fictoraidd ddymunol a barbeciw o garreg. Ceir hefyd doiledau ychwanegol i ymwelwyr, tafarn fechan (The Gull and Leek) yn gwerthu detholiad o ddiodydd cadarn mewn poteli,  diodydd meddal, creision a siocled, yn ogystal ag amgueddfa fechan a siop yn gwerthu detholiad o lyfrau ac anrhegion yn y Barics Fictorianaidd. NODER MAI DIM OND ARIAN PAROD SY’N CAEL EI DDERBYN YN Y DAFARN A’R SIOP

Dŵr a phŵer 

Nid oes gan yr ynys wasanaethau prif gyflenwad ac felly mae’n hunangynhaliol o ran dŵr a phŵer. Mae’r dŵr tap yn cael ei gasglu o ddŵr glaw sy’n cael ei hidlo, ei buro, a’i brofi’n rheolaidd.  Oherwydd pŵer a dŵr cyfyngedig ni ellir gwarantu cawodydd poeth bob amser. Pan fyddant ar gael, gofynnwn i ymwelwyr eu cadw’n fyr er mwyn sicrhau bod pawb yn gallu cael cawod.  Cyflenwir y pŵer gan system ynni solar adnewyddadwy gyda generadur wrth gefn. Peidiwch â dod ag eitemau trydanol egni uchel fel sychwyr neu sythwyr gwallt.

Amser rhydd 

Yn ystod eich amser rhydd gallwch fanteisio ar y cyfle i archwilio’r ynys, mynd i’r dafarn, eistedd yn yr ardd neu ymlacio yn y lolfa.   Os yn cerdded o amgylch yr ynys, ceisiwch beidio ag aflonyddu ar y nythfa gwylanod y bydd y Warden yn cyfeirio ati yn ystod ei groeso a’i gyflwyniad.

Y Gwylanod

Yn ystod misoedd cynnar yr haf mae’r ynys yn gartref i tua 2,000 o Wylanod Cefnddu Leiaf sy’n  nythu – un o’r nythfeydd mwyaf a phwysicaf yng Nghymru ar gyfer yr adar hyn sydd mewn perygl.  Mae gan rai pobl bryderon am “ymosodiadau” gan wylanod.  Er y gall y gwylanod fod ychydig yn amddiffynnol o’u nythod a’u cywion anaml iawn mae hyn yn broblem os ydych yn dilyn canllawiau ein staff ac nad ydych yn aros yn rhy hir nac yn rhy agos at y nythod wrth fynd drwy’r nythfa gwylanod. Rydym yn argymell gwisgo het, cap pêl fas neu sgarff pen i’ch amddiffyn rhag gwylanod yn baeddu arnoch! Peidiwch â gadael i hyn eich atal rhag y profiad unigryw o aros ar Ynys Echni.

Arlwyo

Oni nodi yn yr adran manylion y cwrs mae ein holl ddigwyddiadau yn rhai hunanarlwyo a dylech ddod â digon o fwyd i bara drwy gydol eich digwyddiad ar gyfer pawb yn eich parti.  Byddwch yn gallu rhannu’r gegin sydd â chyfarpar llawn ac oergelloedd i storio bwyd ffres ac ati, ac mae byrddau bwyta dan do neu yn yr awyr agored.  Darperir llestri a chyllyll a ffyrc a’r holl gyfleusterau a chynhyrchion golchi llestri

Os yw eich cwrs yn darparu bwyd, byddwn yn cynnig:

  • Brecwast hunanwasanaeth gyda dewis o rawnfwydydd, bara, taeniadau a ffrwythau
  • Cinio syml o gawl, gyda rholiau a dewis o lenwadau brechdanau, salad, cacen/bisgedi a ffrwyth
  • Pryd o fwyd wedi’i goginio gyda’r nos

 

Mae’r ynys yn gweithredu gyda thîm bach o wirfoddolwyr, felly gofynnwn i westeion fynd i ysbryd “byw cymunedol” a helpu gyda chlirio a gosod byrddau, hunan-weini prydau bwyd, a chadw’r gegin a’r mannau bwyta yn lân ac yn daclus.

Beth i ddod gyda chi

Sylwch fod lle yn y cychod yn gyfyngedig felly ceisiwch gadw’r holl offer i isafswm lle bo hynny’n bosibl – dylech anelu at gadw’ch bagiau i faint bag cludo ar awyren. Mae sach feddal neu sach gefn yn ddelfrydol yn hytrach na chês.

Dyma eitemau hanfodol i’w cludo:

Bagiau Personol

Dewch â bag cysgu – darperir cynfas, gobenyddion a blancedi ychwanegol.

Darperir duvets a dillad gwely – does dim angen dod â bag cysgu

  • Dillad sy’n addas ar gyfer y tywydd a gweithio yn yr awyr agored
  • Dillad cynnes ychwanegol ar gyfer amodau oer
  • Siaced a throwsus gwrth-ddŵr a gwrth-wynt
  • Esgidiau cerdded/esgidiau diogelwch, esgidiau ymarfer neu esgidiau dŵr
  • Sach gefn bach a photel diodydd
  • Esgidiau a dillad dan do
  • Tywel a’r holl bethau ymolchi
  • Tortsh a batris sbâr – mae tortsh pen yn ddelfrydol
  • Unrhyw feddyginiaethau neu eitemau hanfodol eraill ar gyfer eich arhosiad yn ogystal â digon am ddiwrnodau ychwanegol
  • Eli haul a/neu het haul a photel ddŵr
  • Ffôn a gwefrwr
  • Eitemau personol eraill

 

Offer gwersylla (os yn gwersylla):

  • Pabell fach – (e.e. pabell gwarbacio ysgafn i un neu ddau berson)
  • Sach gysgu/mat cysgu/gobennydd gwersylla

 

Offer arbenigol:

Os oes angen unrhyw eitemau arbenigol ar gyfer eich digwyddiad, cewch eich hysbysu am hyn ar wahân gyda’r wybodaeth am y digwyddiad.

 

Os oes gennych unrhyw ymholiadau pellach, anfonwch e-bost at digwyddiadauynysechni@caerdydd.gov.uk neu ffoniwch 02920 877900

Gweld hefyd