Ynys Echni

Ynys Echni – Polisi Preifatrwydd Cerdded Drwy Amser

 

Mae Ynys Echni – Cerdded Drwy Amser yn brosiect a ariennir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol ac sy’n rhan o Awdurdod Harbwr Cyngor Caerdydd. Bydd y polisi preifatrwydd hwn yn esbonio sut mae ein sefydliad yn defnyddio’r data personol a gasglwn gennych pan fyddwch yn defnyddio ein gwefan.

Pynciau:

  • Pa ddata rydym yn ei gasglu a pham?
  • Sut rydym yn casglu eich data?
  • Sut byddwn yn defnyddio eich data?
  • Sut rydym yn storio eich data?
  • Marchnata
  • Beth yw eich hawliau diogelu data?
  • Sut rydym yn defnyddio cwcis?
  • Polisïau preifatrwydd gwefannau eraill
  • Newidiadau i’n polisi preifatrwydd
  • Sut i gysylltu â ni
  • Sut i gysylltu â’r awdurdodau priodol

Pa ddata rydym yn ei gasglu?

Gall Ynys Echni- Cerdded Drwy Amser gasglu a phrosesu’r data canlynol:

  • Manylion cyswllt, gan gynnwys enw, llofnod, cyfeiriad, rhifau ffôn a chyfeiriad e-bost at ddibenion cadarnhau archebion, rhestrau post dewisol a ffurflenni cydsynio.
  • Rhifau cofrestru cerbydau at ddiben parcio yn ystod digwyddiadau ar y morglawdd ac ymweliadau ag Ynys Echni.
  • Manylion adnabod, gan gynnwys dyddiad geni a rhywedd at ddibenion dyrannu ystafelloedd priodol ar ymweliadau preswyl.
  • Manylion Cyfle Cyfartal (data anabledd, tarddiad hil/ethnig, cenedligrwydd, credoau crefyddol, iechyd corfforol neu feddyliol, rhyw, ailbennu rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol) at ddibenion gwerthuso a monitro.
  • Gwybodaeth ariannol. er enghraifft manylion cyfrif banc neu gerdyn debyd/cerdyn, lle bo hynny’n berthnasol at ddibenion archebu gweithgareddau neu deithiau preswyl.
  • Gwybodaeth am fanylion cyswllt eich teulu lle bo angen at ddibenion rheoli risgiau yn ystod gwirfoddoli ac ymweliadau preswyl.
  • Gwybodaeth am eich iechyd lle bo angen at ddibenion rheoli risgiau yn ystod gwirfoddoli ac ymweliadau preswyl.
  • Gwybodaeth am euogfarn droseddol lle bo’n berthnasol at ddibenion recriwtio gwirfoddolwyr.
  • Ffotograffau a Fideos at ddibenion gwerthuso ar gyfer Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, marchnata a hysbysebu, gan gynnwys sianeli cyfryngau cymdeithasol.

Mae Cyfraith Diogelu Data yn disgrifio’r sail gyfreithiol dros ein hangen i brosesu’ch data ar gyfer gweithrediad contract y mae’r gwrthrych data yn barti iddo neu er mwyn cymryd camau ar gais y gwrthrych data cyn ymrwymo i gontract.

Sut rydym yn casglu eich data?

Chi sy’n darparu’r rhan fwyaf o’r data rydyn ni’n ei gasglu i Ynys Echni – Cerdded Drwy Amser. Rydym yn casglu data a phrosesu data pan fyddwch yn:

  • Cofrestru ar gyfer ein rhestr bostio naill ai yn bersonol neu ar-lein neu’n archebu un o’n gweithgareddau neu benwythnosau preswyl drwy Eola.
  • Llenwi ffurflen ganiatâd ffotograffau a fideo.
  • Rhoi caniatâd i ni dynnu lluniau a fideos o ddigwyddiad, gweithgaredd neu breswyliad.
  • Cwblhau arolwg cwsmeriaid yn wirfoddol neu’n rhoi adborth ar unrhyw un o’n ffurflenni gwerthuso.
  • Defnyddio ein gwefan neu edrych arni trwy gwcis eich porwr.
  • Gwneud cais am rôl gwirfoddoli drwy Gyngor Caerdydd.

Gall Ynys Echni – Cerdded Drwy Amser hefyd dderbyn eich data yn anuniongyrchol o’r ffynonellau a ganlyn:

  • Eola pan fyddwch yn trefnu ymweliad preswyl ag Ynys Echni.

Sut byddwn yn defnyddio eich data?

Mae Ynys Echni – Cerdded Drwy Amser yn casglu eich data fel y gallwn:

  • Gysylltu â chi
  • Prosesu eich archeb
  • E-bostio eich gweithgareddau a gwybodaeth rydyn ni’n meddwl y gallech chi ei hoffi, os ydych chi wedi cofrestru ar gyfer ein rhestr bostio.
  • Monitro a gwerthuso llwyddiant y prosiect
  • Recriwtio gwirfoddolwyr
  • Asesu risgiau a’ch cadw’n ddiogel yn ystod digwyddiadau, gweithgareddau ac ymweliadau preswyl.
  • Gwneud taliadau i chi fel gwerthwr ar ein system taliadau Cyngor Caerdydd

Gyda phwy rydym yn rhannu eich data?

  • Warden Ynys Cyngor Caerdydd a gwirfoddolwyr
  • Hyfforddwyr dosbarth at ddibenion iechyd a diogelwch yn ystod digwyddiadau preswyl
  • Gweithredwyr cychod, Bay Island Voyages neu Cardiff Cruises (fel y nodir ar eich ffurflen archebu) at ddibenion iechyd a diogelwch yn ystod digwyddiadau preswyl a dydd
  • Rheoli’r Morglawdd at ddibenion parcio yn ystod digwyddiadau ar y morglawdd ac ymweliadau ag Ynys Echni.
  • Gwasanaethau brys ond dim ond os oes angen
  • Cyrchu’n fewnol a gwasanaethau ariannol mewnol os ydych yn derbyn taliad am wasanaeth fel hyfforddiant neu weithgareddau preswyl.

Gofynnir i chi lenwi ffurflen werthuso ar ddiwedd eich ymweliad. Mae hyn yn ddewisol.

Bydd y data dienw yn cael ei rannu gyda’n cwmnïau partner: –

  • Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol er mwyn iddynt werthuso llwyddiant y prosiect
  • Phil Collins Associates er mwyn iddynt werthuso llwyddiant y prosiect

Sut rydym yn storio eich data?

  • Mae Ynys Echni – Cerdded Drwy Amser yn storio eich data’n ddiogel ar gronfa ddata diogel Cyngor Caerdydd. Gellir storio nifer fach o ffurflenni gwerthuso papur yn Y Ffermdy, Ynys Echni a’u trosglwyddo’n ddiogel i Queen Alexandra House, Heol y Cargo, Caerdydd, cyn cael eu sganio i’r gronfa ddata a dinistrio’r copïau papur yn ddiogel. Ni fydd copïau papur yn cael eu cadw am fwy na mis.
  • Mae Ynys Echni – Cerdded Drwy Amser yn dilyn amserlenni cadw data Cyngor Caerdydd.
  • Byddwn ond yn cadw eich data personol cyn hired ag sydd ei angen er mwyn cyflawni’r diben(ion) y cafodd ei gasglu ar ei gyfer ac am gyfnod yr ydym yn ei ystyried yn angenrheidiol i ymdrin ag unrhyw gwestiynau neu gwynion y gallem eu derbyn, oni bai y dewiswn gadw eich data am gyfnod hwy i gydymffurfio â’n rhwymedigaethau cyfreithiol a rheoliadol. Os ydych yn ynghlwm wrth ddigwyddiad/damwain meddygol sy’n digwydd yn ystod gweithgaredd neu breswyl, bydd gofyniad cyfreithiol ar y prosiect a’r hwylusydd gweithgareddau i gadw gwybodaeth bersonol am 3 blynedd neu hyd nes y bydd plentyn dan oedran yn cyrraedd 21 oed. At ddibenion cyfreithiol, bydd unrhyw ddata gwasanaethau ariannol yn cael ei gadw am 7 mlynedd.Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn  Amserlen Gadw’r Cyngor

Marchnata

  • Hoffai Ynys Echni – Cerdded Drwy Amser anfon gwybodaeth atoch am gynhyrchion a gwasanaethau y credwn allai apelio atoch. Gofynnir i chi gydsynio i hyn.
  • Os ydych wedi cytuno i dderbyn gohebiaeth farchnata, gallwch bob amser optio allan yn ddiweddarach .

Mae gennych hawl ar unrhyw adeg i atal Ynys Echni – Cerdded Drwy Amser rhag cysylltu â chi at ddibenion marchnata.
Os nad ydych am i ni gysylltu â chi at ddibenion marchnata mwyach, cysylltwch â prosiectynysechni@caerdydd.gov.uk

Beth yw eich hawliau diogelu data?

Hoffai Ynys Echni – Cerdded Drwy Amser wneud yn siŵr eich bod yn gwbl ymwybodol o’ch holl hawliau diogelu data. Mae gan bob defnyddiwr hawl i’r canlynol:

Yr hawl i gael mynediad – Mae gennych hawl i ofyn i Ynys Echni – Cerdded Drwy Amser am gopïau o’ch data personol.

Yr hawl i gywiro – Mae gennych hawl i ofyn i Ynys Echni – Cerdded Drwy Amser gywiro unrhyw wybodaeth sy’n anghywir yn eich barn chi.  Mae gennych hefyd hawl i ofyn i Ynys Echni – Cerdded Drwy Amser gwblhau’r wybodaeth sy’n anghyflawn yn eich barn chi.

Yr hawl i ddileu – Mae gennych hawl i ofyn i Ynys Echni – Cerdded Drwy Amser ddileu eich data personol, dan rai amodau.

Yr hawl i gyfyngu ar brosesu – Mae gennych hawl i ofyn i Ynys Echni – Cerdded Drwy Amser roi cyfyngiadau ar brosesu eich data personol, dan rai amodau.

Yr hawl i wrthwynebu prosesu – Mae gennych hawl i wrthwynebu i Ynys Echni – Cerdded Drwy Amser brosesu eich data personol, dan rai amodau.

Yr hawl i gludo data – Mae gennych hawl i ofyn i Ynys Echni – Cerdded Drwy Amser drosglwyddo’r data yr ydym wedi’i gasglu i sefydliad arall, neu’n uniongyrchol i chi, dan rai amodau.

Os gwnewch gais, bydd gennym un mis i ymateb i chi. Os hoffech arfer unrhyw un o’r hawliau hyn, cysylltwch â ni ar ein cyfeiriad e-bost: HawliauUnigolion@caerdydd.gov.uk

Cwcis

I gael rhagor o wybodaeth am gwcis, ewch i bolisi Cyngor Caerdydd https://privacy.cardiffcouncilwebteam.co.uk/Cwcis.php.

Polisïau preifatrwydd gwefannau eraill

Mae gwefan Ynys Echni – Cerdded Drwy Amser yn cynnwys dolenni i wefannau eraill. Dim ond i’n gwefan ni y mae ein polisi preifatrwydd yn berthnasol, felly os byddwch yn clicio ar ddolen i wefan arall, dylech ddarllen eu polisi preifatrwydd nhw.

eola | Privacy Policy

 

Newidiadau i’n polisi preifatrwydd

Mae Ynys Echni – Cerdded Drwy Amser yn adolygu ei bolisi preifatrwydd yn rheolaidd ac yn rhoi unrhyw ddiweddariadau ar y dudalen we hon: Diweddarwyd y polisi preifatrwydd hwn ddiwethaf ar 17 Ionawr 2023.

Sut i gysylltu â ni

Os bydd gennych unrhyw gwestiynau am bolisïau preifatrwydd Ynys Echni – Cerdded Drwy Amser neu’r data rydym yn ei gadw amdanoch chi, neu os hoffech arfer un o’ch hawliau diogelu data, mae croeso i chi gysylltu â ni drwy  diogeludata@caerdydd.gov.uk neu drwy’r post.

 

Swyddog Diogelu Data
Tîm Llywodraethu Gwybodaeth
Neuadd y Sir
Glanfa’r Iwerydd
Caerdydd
CF10 4UW

 

Sut i gysylltu â’r awdurdod priodol

Os hoffech gwyno neu os teimlwch nad aed i’r afael yn briodol â’ch cwyn, gallwch gysylltu â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth drwy eu gwefan https://ico.org.uk/concerns/getting/ neu drwy ffonio 0303 123 1113

Gweld hefyd