Ynys Echni

Cadwraeth

Bioddiogelwch

Mae bioddiogelwch yn cyfeirio at y camau a gymerir i amddiffyn ardaloedd rhag ysglyfaethwyr a phlanhigion ymledol.

 

Gallai ysglyfaethwyr a phlanhigion ymledol achosi niwed difrifol i ynysoedd sydd yn rhydd rhag ysglyfaethwyr. Mae ein rhywogaethau o adar wedi esblygu i nythu ar y ddaear neu mewn tyllau, gan fod eu hynys bob amser wedi bod yn rhydd rhag ysglyfaethwyr tir. Felly gallai dyfodiad ysglyfaethwyr ar Ynys Echni gael effaith ddinistriol ar rywogaethau o’r fath.

Mae Ynys Echni, sydd yn atyniad ymwelwyr poblogaidd, yn gartref i lawer o rywogaethau sy’n cael eu gwarchod, fel yr wylan gefnddu leiaf. Er mwyn i’r ynys barhau i fod yn lle pleserus a diogel i fywyd gwyllt ac ymwelwyr, mae’n hanfodol bod mesurau bioddiogelwch yn cael eu cymryd o ddifrif. Byddai methu â chyflawni’r mesurau hyn yn rhoi Ynys Echni mewn perygl mawr o bla o gnofilod, er enghraifft. Byddai dileu plâu o’r fath yn cymryd amser, byddai’n gostus a gallai achosi niwed parhaol i amgylchedd yr ynys.

Pam mae bioddiogelwch yn bwysig?

Mae mesurau bioddiogelwch ar waith i amddiffyn bywyd gwyllt Ynys Echni rhag ysglyfaethwyr, fel cnofilod, Canclwm Japan a phlanhigion ymledol eraill, a gallai pob un ohonynt gael effeithiau niweidiol difrifol. Mae ysglyfaethwyr yn bwyta gwylanod ac wyau adar eraill sy’n nythu ar y ddaear, a allai ddileu’r boblogaeth o wylanod sydd yn cael eu gwarchod ar yr ynys ymhen ychydig flynyddoedd, oherwydd y gyfradd y mae cnofilod yn magu. Mae effaith canclwm Japan yn ddifrifol hefyd, am y gallai niweidio adeiladau’r ynys a hyd yn oed goresgyn cynefinoedd glaswelltir. Dyma pam y mae’n bwysig bod y mesurau hyn yn cael eu cymryd o ddifrif ac yn cael eu trin yn broffesiynol.

Er mai gweithwyr proffesiynol sy’n delio â’r rhan fwyaf o’r gwaith, mae yna ffyrdd y gallwch chi gynorthwyo. Os ydych ar ymweliad ag Ynys Echni neu ar daith cwch o amgylch Bae Caerdydd, gallwch chi hefyd gyfrannu.

Cofiwch:

  • Peidiwch â dod â bwyd ar gwch os nad yw mewn cynhwysydd wedi’i selio.

 

  • Parchwch Ynys Echni ac ardal y Bae a pheidiwch â gollwng sbwriel na gadael bwyd ar ôl.

 

  • Os ydych yn gadael yn eich cwch personol, dilynwch y mesurau a chwiliwch am deithwyr cudd cyn cychwyn.

 

  • Os gwelir cnofil neu finc yn ystod eich taith ar gwch, mae’n rhaid i chi ddychwelyd i’r lanfa lle gellir delio â’r sefyllfa. Peidiwch â’i daflu oddi ar y cwch na glanio ar Ynys Echni gydag ef yn dal ar fwrdd y cwch. Gellir atal presenoldeb cnofilod a mincod trwy osod trapiau neu ddefnyddio gwenwyn.

There are many measures which must be met. Here are the most important ones:

  • Checking boats for rodents and mink.
  • Checking cargo for rodents and mink.
  • Making sure that no fishing bags are left out overnight for rodents to hide in.
  • Monitoring key areas for rodent and mink damage/activity and droppings.
  • Searching for the presence of knotweed, and, if found, reporting it.
  • Not leaving food on or around boats travelling to Flat Holm.

Cadwraeth Natur

Mae llawer o fesurau y mae’n rhaid eu bodloni. Dyma’r rhai pwysicaf:

  • Archwilio cychod am gnofilod a mincod.
  • Archwilio cargo am gnofilod a mincod.
  • Sicrhau nad oes bagiau pysgota’n cael eu gadael allan dros nos i gnofilod guddio ynddynt.
  • Monitro ardaloedd allweddol o ran difrod/gweithgaredd a charthion cnofilod a mincod.
  • Chwilio am bresenoldeb canclwm Japan, ac, os caiff ei ganfod, adrodd am hyn.
  • Peidio â gadael bwyd ar gychod sy’n teithio i Ynys Echni neu o’u hamgylch.

Cynllyn rheoli

Mae Cynllun Rheoli Ynys Echni yn amlinellu nodweddion pwysig yr ynys. Mae’n creu sylfaen ar gyfer gwella cynefinoedd yr ynys.

Ym 1982, sefydlwyd Prosiect Ynys Echni. Y nod oedd rheoli Ynys Echni fel gwarchodfa natur leol ac annog mynediad a chyfleoedd addysg i ymwelwyr.
Mae i’r ynys hanes hir ac amrywiol, ac fe’i defnyddiwyd gan ddyn ers y cyfnod cyn hanes. Ffermiwyd yno am 800 can mlynedd a daeth hynny i ben ym 1942. Fe’i trowyd yn gadarnle ddwywaith, yn fwyaf diweddar yn ystod yr 2il Ryfel Byd. Mae gan yr ynys nifer o adeiladau a strwythurau o ddiddordeb hanesyddol, ac mae nifer ohonynt yn adeiladau rhestredig a henebion rhestredig.

Mae hanes a daeareg naturiol Ynys Echni yn ddiddorol a phwysig. Dyma rai o’r nodweddion hynod:

  • Glaswelltir calchfaen ar yr arfordir
  • Cynefinoedd ar glogwyni
  • Cennin gwyllt
  • Cytref o wylanod cefnddu sy’n nythu

Dyma restr o rai o’r rhywogaethau y gellir eu gweld ar yr Ynys drwy gydol y flwyddyn; Adar: hwyaid yr eithin, piod môr, corhedion y graig, pincod a llinosiaid, cwtiaid y traeth a phibyddion y mawn Anifeiliaid: cwningod, dallnadroedd, madfallod a gloÿnnod byw Planhigion: cennin gwyllt, rhosod-y-mynydd gwyllt, clustogau Mair, lafant y morgreigiau, gludlys arfor a chlychau’r gog.

Flat Holm

Cynaliadwyedd

Mae prosiect Ynys Echni’n anelu i arddangos technolegau cynaliadwy. Roedd y cyflenwad pŵer gwreiddiol yn cynnwys amryw o eneraduron diesel anghysylltiedig mewn gwahanol adeiladau.

Yn 2006/2007, cafodd grid bychan ei osod rhwng y ffermdy, y gweithdai a bwthyn ceidwad y corn niwl. Caiff y grid hwn ei bweru gan fanc batri a gaiff ei wefru gan ddwy res o baneli ffotofoltäig, a chan dyrbin gwynt wedi’i leoli ar hen dŵr telathrebu ar ran uchaf yr Ynys. Ar hyn o bryd, mae’r Ynys yn gallu cynhyrchu 90% o’i thrydan o ffynonellau gwyrdd, gan leihau ôl troed carbon yr Ynys.

Mae’r ynys hefyd yn gynaliadwy gan nad oes ffynhonnell o ddŵr ar yr ynys, felly cesglir dŵr glaw oddi ar doeau’r adeiladau. Caiff y dŵr hwn ei gadw mewn tanc dŵr Fictoraidd tanddaearol a’i bwmpio drwy system hidlo uwch fioled.

Mae system wresogi ynni’r haul a boeler biomas yn darparu’r rhan fwyaf o ddŵr poeth a gwres sydd ei angen ar yr Ynys drwy gydol y flwyddyn. Caiff broc a gesglir o’r glannau ei sychu am flwyddyn a’i ddefnyddio’n danwydd ar gyfer y boeler, gan leihau’r angen i gludo pren o’r tir mawr.

Gweld hefyd