Gwastraff

Cael gwared ar wastraff

Gallwch helpu i sicrhau bod amgylchedd y Bae’n lân drwy ddefnyddio’r biniau gwastraff sydd ar gael neu fynd â’ch sbwriel gyda chi. Os ydych yn defnyddio cwch yn y Bae, dylai eich Clwb Hwylio neu Farina gynnig cyfleuster i chi ar gyfer cael gwared ar wastraff cwch, gan gynnwys olew a batris.

Cynllun Rheoli Gwastraff Porthladd

Mae Awdurdod Harbwr Caerdydd, yn unol â gofynion Rheoliadau Llongau Masnach a Chychod Pysgota (Cyfleusterau Derbyn Gwastraff Porthladd) 2003 a’r diwygiadau, wedi creu Cynllun Rheoli Gwastraff Porthladd.

Nod y cynllun yw sicrhau bod cyfleusterau digonol a phriodol ar gael yn rhwydd, er mwyn derbyn deunyddiau gwastraff o gychod sy’n defnyddio’r porthladd, ac i gael gwared ar unrhyw wastraff mewn modd cywir ac amserol.

Mae Awdurdod Harbwr Caerdydd yn cydnabod bod angen rheoli a thrin gwastraff o bob math o gychod er mwyn sicrhau amgylchedd glanach ym Mae Caerdydd ac yn y môr.

Cwblhawyd y cynllun wedi ymgynghori â’r boblogaeth hwylio leol, sefydliadau sy’n cynnig cyfleusterau ar y lan ar gyfer y morwyr, ac Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau.

Ffurflen hysbysu gwastraff llong

Mae’n rhaid i unrhyw long fawr sy’n ymweld, ac eithrio cychod pysgota, sy’n dal mwy na 12 teithiwr, roi hysbysiad gwastraff i Awdurdod yr Harbwr yn unol â’r ffurflen gwaredu gwastraff llong. Mae’n rhaid cwblhau’r ffurflen hon a’i chyflwyno i’r Harbwrfeistr o leiaf 24 awr cyn i chi gyrraedd.

Lawrlwytho ffurflen hysbysu gwastraff llong (93KB PDF)

Pwmp ‘sbydu

Peidiwch â defnyddio’r pwmp ‘sbydu na gwagio tanciau dal gwastraff yn y Bae. Mae cyfleuster ‘sbydu dŵr a phwmp gwastraff tŷ bach ar gael gan Awdurdod yr Harbwr ger arhosfan y bws dŵr, gyferbyn â mynedfa Marina Penarth.