Ni chaniateir neidio i mewn i ddŵr Bae Caerdydd na nofio ynddo oherwydd y perygl o foddi. Hoffem i blant ym mlynyddoedd 5 i 7 (8+ oed) helpu Awdurdod Harbwr Caerdydd i ledaenu’r neges hanfodol hon drwy ddylunio poster am ddiogelwch dŵr yn y Bae.
Bydd y 25 poster buddugol yn cael eu harddangos ar hyd llwybr cerdded y Morglawdd yn ystod yr haf. Mae dros filiwn o bobl yn ymweld â’r Morglawdd bob blwyddyn, felly bydd y baneri’n enwog! Bydd gweddill y posteri sy’n cael eu cyflwyno’n cael eu harddangos ar ein gwefan neu ar y cyfryngau cymdeithasol.
Cyfarwyddiadau ar gyfer baneri’r Bae – darllenwch yn ofalus cyn dechrau dylunio
Mae croeso i chi weithio ar eich pen eich hun neu gyda’ch dosbarth. Dyma rai ffeithiau am y Bae a diogelwch dŵr i sbarduno syniadau ar gyfer eich dyluniad:
- Gwyliwch y ddrama
Anogir plant ysgol (8+ oed) i wylio Y Naid, drama drawiadol gan Theatr na nÓg, a gomisiynwyd gan Awdurdod Harbwr Caerdydd fel rhan o’n prosiect Celfyddydau a Busnes Cymru. Mae’r perfformiad yn pwysleisio’r neges am ddiogelwch yn y dŵr mewn ffordd bwerus a theimladwy: https://www.youtube.com/watch?v=zeK3NYBD6Ag - Bae mawr
Creodd y Morglawdd lyn dŵr croyw (y Bae), sy’n cael ei fwydo gan afonydd Taf ac Elái. Mae’r Bae yn enfawr – 220 hectar o faint, sy’n fwy na 300 o gaeau pêl-droed! - Dŵr oer
Gall y dŵr yn y Bae deimlo’n oer drwy gydol y flwyddyn, hyd yn oed yn ystod yr haf. Gall dŵr oer effeithio ar eich anadlu ac arwain at sioc dŵr oer. - O dan yr arwyneb
Mae dyfnderoedd anrhagweladwy a gwrthrychau cudd y Bae yn ei gwneud yn beryglus. - Rhwystrau anniogel
Mae cychod cyflym yn gweithredu yn y Bae. Efallai na fydd gweithredwyr cychod yn gallu gweld pobl yn y dŵr. - Perygl o foddi
Dim ond hanner peint o ddŵr yn eich ysgyfaint sydd ei angen i chi ddechrau boddi. - Nofio heb oruchwyliaeth
Nid yw dŵr y Bae yn cael ei oruchwylio gan achubwyr bywyd. Mae’n fwy diogel o lawer nofio mewn ardaloedd ag achubwyr bywyd, fel pyllau nofio a thraethau sy’n cael eu patrolio. - Byddwch yn ddoeth am ddŵr
Mae’n bwysig trin y Bae gyda pharch a bod yn gyfrifol. Cadwch yn ddiogel, arhoswch allan!
Cyfarwyddiadau cystadlu
- Mae croeso i chi lunio baneri â llaw neu eu creu’n ddigidol.
- Dylai eich llun fod ar dudalen A4 â gogwydd tirlun, a dylech ei gyflwyno mewn fformat PDF neu JPEG eglur iawn.
- E-bostiwch eich dyluniad (rhaid sganio baneri wedi’u llunio â llaw yn hytrach na thynnu lluniau ohonynt), ynghyd â’i deitl, eich enw a’ch ysgol, at: CystadleuaethHarbwr@caerdydd.gov.uk.
Gair o gyngor
Rydyn ni’n chwilio am ddyluniadau bywiog a lliwgar a fydd yn sefyll allan.
Dyddiad cau
E-bostiwch eich baneri erbyn dydd Mercher 10 Mehefin i’w gadarnhau.
Allwn ni ddim aros i weld eich baneri diogelwch dŵr. Diolch a phob lwc!
May 1, 2026 12:01 pm.
Rhannu: