Diogelwch dŵr
Côd Diogelwch Dŵr
Mae Côd Diogelwch Dŵr Awdurdod Harbwr Caerdydd wedi’i gynllunio i hybu diogelwch yn y Bae a’i afonydd. Rydym eisiau i chi fwynhau eich profiad o gwmpas ymyl y dŵr, felly dilynwch y Cod Diogelwch Dŵr.
Dyma’r prif egwyddorion i’w dilyn:
- NI chaniateir nofio yn y Bae neu’r afonydd (oherwydd ei ddyfnder a’i ffrwd peryglus)
- Os ydych yn gweld unrhyw un yn cael trafferth, ffoniwch 999 a gofynwch am y Gwasanaethau
- Peidiwch â thaflu sbwriel neu gerrig yn y dŵr
- Gwisgwch fŵts neu esgidiau ar y glannau ac ar y blaendraeth trwy’r amser
Cystadleuaeth ‘Dylunio Baner y Bae’ i ysgolion
Ni chaniateir neidio i ddŵr Bae Caerdydd na nofio ynddo oherwydd y perygl o foddi.
Er mwyn helpu Awdurdod Harbwr Caerdydd i ledaenu’r neges hanfodol hon, fe wnaethom gynnal cystadleuaeth i blant ysgol ddylunio poster am ddiogelwch dŵr yn y Bae.
Hoffem ddiolch i bawb a gymerodd ran – gwnaeth safon uchel y dyluniadau argraff fawr arnom, ac rydym yn gwerthfawrogi’n fawr yr amser a dreuliodd disgyblion ac athrawon yn ymgysylltu â’r pwnc.
Diolch a da iawn bawb!
Ceisiadau buddugol
Bydd pob un o’r 60 baner fuddugol yn cael eu harddangos ar draws Morglawdd Bae Caerdydd, Rhodfa’r Morglawdd a’r Dociau Sych. Mae dros filiwn o bobl yn ymweld â’r Morglawdd bob blwyddyn, felly bydd y gweithiau celf yn enwog!
Morglawdd Bae Caerdydd
Rhodfa’r Morglawdd
Dociau Sych
Cofnodion canmoladwy
Edrychwch ar weddill ein ceisiadau gwych, a grëwyd gan artistiaid ifanc talentog ledled Caerdydd a’r ardal ehangach:



















































































































































