Plant yn helpu i rannu neges hanfodol diogelwch dŵr

Mae plant ysgol o Gaerdydd a’r ardal ehangach wedi sianelu eu creadigrwydd i helpu Awdurdod Harbwr Caerdydd (AHC) i godi ymwybyddiaeth o ddiogelwch dŵr ym Mae Caerdydd.

Gwahoddwyd disgyblion i ddylunio baneri sy’n cyfleu’r neges bwysig na ddylai pobl nofio ym Mae Caerdydd. Anogodd y gystadleuaeth bobl ifanc i feddwl am y peryglon sy’n gysylltiedig â nofio heb awdurdod a chyfleu’r wybodaeth hon a allai achub bywydau trwy ddyluniadau creadigol a trawiadol.

Mae’r baneri buddugol bellach yn cael eu harddangos mewn lleoliadau allweddol o amgylch y Bae, gan gynnwys Morglawdd Bae Caerdydd, Rhodfa’r Morglawdd a’r Dociau Sych, lle byddant yn cael eu gweld gan filoedd o ymwelwyr drwy gydol y flwyddyn.

Gellir gweld holl geisiadau cystadleuaeth ar tudalen diogelwch dwr.

Canmolodd y beirniaid safon uchel y ceisiadau, gan dynnu sylw at ddealltwriaeth gref y disgyblion o’r pwnc a’u gallu i gyfathrebu neges ddiogelwch hanfodol gyda chreadigrwydd a dawn artistig.

Hoffai AHC ddiolch a llongyfarch yr holl ysgolion a gymerodd ran:

  • Ysgol Gynradd y Tyllgoed
  • Ysgol Gynradd Howardian
  • Ysgol Gynradd Palmerston
  • Ysgol Uwchradd Gatholig Illtud Sant
  • Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Sant Paul
  • Ysgol Gynradd y Bont-faen
  • Ysgol Garth Olwg
  • Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr
  • Ysgol Gynradd Gymunedol Gymraeg Llantrisant
  • Ysgol y Berllan Deg

Mae’r gystadleuaeth yn rhan o ymdrechion parhaus i hyrwyddo diogelwch dŵr ac annog trigolion ac ymwelwyr i fwynhau Bae Caerdydd yn gyfrifol.




August 6, 2026 2:44 pm.

Rhannu:

Mwy