Ynys Echni: Cerdded Drwy Amser

Mae’r digwyddiad hwn yn rhan o’n prosiect Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, Ynys Echni - Cerdded Drwy Amser.

Dyddiad ac amser
Dyddiad(au) - July 25, 2026
6:30 pm-8:30 pm

£10 – archebwch tocynnau yma

Lleoliad: Pafiliwn Pier Penarth

Drysau’n agor o 6.30pm | Sioe 7-8.30pm

Mae ‘Ynys Echni: Cerdded Drwy Amser’ yn cyflwyno noson i ddathlu Ynys Echni.

Fe’ch gwahoddir i gyflwyniad barddoniaeth, ffilm a seinwedd byw o gomisiwn celfyddydau Artstation, a grëwyd fel rhan o brosiect adfer Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, ‘Ynys Echni: Cerdded Drwy Amser’.

Bydd y tîm o artistiaid yn arddangos eu gwaith trwy’r wefan ryngweithiol. Bydd yr artist, Glenn Davidson, yn cyflwyno ei ffilmiau barddoniaeth byr, sy’n archwilio treftadaeth yr ynys, a’i gerflun “Radio Flat Holm” sy’n dathlu darllediadau radio Marconi i’r ynys yn 1897.

Bydd y bardd, Philip Gross, a’r awdur, Wyn Mason, yn darllen eu barddoniaeth a’u gweithiau rhyddiaith gwreiddiol wedi’u hysbrydoli gan yr amser a dreuliwyd ymhlith treftadaeth adeiledig a naturiol Ynys Echni.

Cyflwynir gan Bridget Box, Llywydd Cymdeithas Ynys Echni. Bydd cyfle i gwrdd â’r artistiaid ar ôl y perfformiad.

Ariennir y digwyddiad hwn gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol.


Manylion yr arweinydd

Rhestr Cyfarpar

Pris :




July 25, 2026 6:30 pm.

Rhannu:

Mwy