Mae’r digwyddiad hwn yn rhan o’n prosiect Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, Ynys Echni - Cerdded Drwy Amser.
Dyddiad ac amser
Dyddiad(au) - July 24, 2026-July 26, 2026
All Day
Lighthouse Theatre ac Awdurdod Harbwr Caerdydd yn cyflwyno…
Sails of the Unexpected
Mae Lighthouse Theatre yn dychwelyd gyda’i theithiau perfformio ym Mae Caerdydd – ar droed ac ar feic.
Bydd y sioe hwyliog ac ysgafn hon yn eich tywys trwy 3,000 o flynyddoedd o hanes y Bae drwy stori, slapstic a chân. Ewch gydag actorion tywys ar daith trwy amser, o’r Celtiaid i’r Senedd, gan gwrdd â chymeriadau fel Ardalydd Bute a Dai Davies o Landinam.
Dyddiadau’r daith:
Dydd Gwener 24 Gorffennaf
Dydd Sadwrn 25 Gorffennaf
Dydd Sul 26 Gorffennaf
Teithiau cerdded
Amser: 10.30am – 12.30pm
Teithiau beicio (ni ddarperir beiciau)
Amser: 1.30pm – 3.30pm
Pris: £5 y pen
Cadwch eich lle yma: https://www.ticketsource.com/whats-on?location=cardiff&date=next_month&q=Sails+of+the+Unexpected

July 24, 2026 12:00 am.
Rhannu: