The Grinch Christmas Quest

Mae’r digwyddiad hwn yn rhan o’n prosiect Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, Ynys Echni - Cerdded Drwy Amser.

Dyddiad ac amser
Dyddiad(au) - November 27, 2026-January 3, 2027
12:00 am

Allwch chi helpu i ddod o hyd i’r Grinch y Nadolig hwn?

Mae’r Grinch wedi bod yn creu helynt Nadoligaidd o amgylch Bae Caerdydd — ac mae angen help i ddod o hyd iddo!

Dewch ar Helfa Nadolig y Grinch, antur deuluol ar draws saith safle o amgylch Bae Caerdydd. Ym mhob safle, chwiliwch yn ofalus am dystiolaeth gudd, sganiwch i ddatgelu profiad AR rhyngweithiol a dewiswch fodiwl tracio newydd i’w ychwanegu at eich Traciwr Grinch personol.

Mae pob dewis yn helpu i greu eich traciwr wrth i chi ddilyn pob cam ar yr helfa. Dewch o hyd i’r saith safle er mwyn gorffen eich traciwr i ddod o hyd i’r Grinch gan helpu i achub y Nadolig.

Helfa i chi ei mwynhau fel teulu yw hon a gallwch gychwyn o unrhyw un o’r lleoliadau sy’n cymryd rhan.

Does dim angen lawrlwytho ap — mae popeth yn gweithio trwy borwr eich ffôn symudol.

Gallwch godi Taflen Tracio Grinch o un o’r lleoliadau hyn:

  • Canolfan y Ddraig Goch
  • Cei’r Fôr-forwyn
  • Canolfan Mileniwm Cymru
  • Y Senedd
  • Crefft yn y Bae
  • Techniquest
  • Yr Eglwys Norwyaidd

Dewch o hyd i’r safle cyntaf a dechreuwch yr Helfa Nadoligaidd!

Ar ôl cwblhau’r helfa, gallwch gasglu eich gwobr Grinch o:

  • Crefft yn y Bae
  • Techniquest
  • Canolfan Mileniwm Cymru


Manylion yr arweinydd

Rhestr Cyfarpar

Pris :




November 27, 2026 12:00 am.

Rhannu:

Mwy