Mae’r digwyddiad hwn yn rhan o’n prosiect Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, Ynys Echni - Cerdded Drwy Amser.
Dyddiad ac amser
Dyddiad(au) - July 24, 2026-July 26, 2026
2:00 pm-4:00 pm
Dewch i fwynhau profiad gwyllt a bythgofiadwy ar Ynys Echni.
Bydd y pwyslais y penwythnos hwn ar ddysgu tra’n cael llawer o hwyl. Dewch i ddarganfod bywyd gwyllt yr ynys trwy weithgareddau fel pyllau glan môr, hela bwystfilod bach a dal gwyfynod. Efallai y byddwch hyd yn oed yn ddigon ffodus i ddarganfod ein nadroedd defaid a madfallod celgar. Heb anghofio wrth gwrs drigolion mwyaf amlwg (a swnllyd) yr ynys, y gwylanod.
Gallai gweithgareddau eraill, yn dibynnu ar y tywydd a’r tymor, gynnwys cribinio traethau, dysgu i gynnau tân, tân ar y traeth, adeiladu lloches, celf amgylcheddol, llwybr trysor, a darganfod traciau ac arwyddion anifeiliaid. Wrth gwrs, byddwch hefyd yn cael archwilio adeiladau hanesyddol diddorol Ynys Echni a phrofi heddwch a thawelwch yr ynys wrth i’r haul fachlud.
Darperir yr holl fwyd, gweithgareddau a llety gan eich galluogi i fwynhau hoe dros benwythnos hir.
Mae’r cwrs yn fwyaf addas ar gyfer teuluoedd â phlant 7 – 11 oed, ond nid yw hyn yn rheol gaeth. Cysylltwch â ni os yw’ch plant yn hŷn neu’n iau a’ch bod am drafod a fydd y penwythnos yn iawn i chi.
Manylion yr arweinydd
Warden yr Ynys a'r tîm.
Tîm staff yr ynys fydd yn dysgu’r cwrs, sydd i gyd yn brofiadol wrth gyflwyno gweithgareddau o ansawdd uchel i grwpiau teuluol. Trwy fyw a gweithio ar yr ynys maent yn gallu dangos rhai o'i chyfrinachau i chi nad yw ymwelwyr bob dydd yn cael eu gweld.
Rhestr Cyfarpar
HANFODOL Nid oes angen unrhyw offer arbennig DYMUNOL Binocwlars os oes rhai gennych chi (mae gennym ni rai i'w benthyca), a chamera neu ffôn i dynnu lluniau os dymunwch.
Pris : £125
Plant (dan 16 oed) £100July 24, 2026 2:00 pm.
Rhannu: