Mae’r digwyddiad hwn yn rhan o’n prosiect Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, Ynys Echni - Cerdded Drwy Amser.
Dyddiad ac amser
Dyddiad(au) - July 18, 2026-August 31, 2026
11:00 am-8:00 pm
Dydd Sul i ddydd Iau: 11:00 – 20:00
Dydd Gwener i ddydd Sadwrn: 11:00 – 21:00
Lleoliad: Roald Dahl Plass, Bae Caerdydd, CF10 5AL
Mae Parc Hwyl i’r Teulu Bae Caerdydd yn dychwelyd, yn barod i ddiddanu pobl o bob oedran am y gwyliau haf cyfan.
Bydd atyniadau ffair cyffrous ac adloniant i’r teulu yn llenwi’r Roald Dahl Plass eiconig, rhwng Cei’r Fôr-forwyn a Chanolfan Mileniwm Cymru yng nghanol Bae Caerdydd.
Yn newydd yn 2026: Skyfall, y tŵr rhydd-syrthio teithiol mwyaf yn y DU, sy’n 80 metr o uchder.
Atyniadau’r Ffair:
- Tŵr rhydd-syrthio Skyfall
- Tŷ Hwyl
- Trên ar Ffo
- Trampolinau Bynji
- Llamu ar y Llyn
- Ceir Taro
- Reidiau i Blant
- Stondinau Gemau i Deuluoedd
- Stondinau bwyd a diod
Gwybodaeth ychwanegol:
- Gall yr oriau agor newid oherwydd amgylchiadau annisgwyl, fel amodau tywydd eithafol.
- Mae croeso i gŵn sy’n ymddwyn yn dda ar y safle, ond rhaid eu cadw ar dennyn bob amser.
- Ni chaniateir unrhyw alcohol ar safle’r digwyddiad.
- Gallwch dalu gyda cherdyn neu arian parod mewn atyniadau unigol yn y digwyddiad.
July 18, 2026 11:00 am.
Rhannu: