Galeón Andalucía

Mae’r digwyddiad hwn yn rhan o’n prosiect Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, Ynys Echni - Cerdded Drwy Amser.

Dyddiad ac amser
Dyddiad(au) - May 10, 2024 - May 12, 2024
10:00 am - 8:00 pm

Bydd atgynhyrchiad unigryw o’r llong uchel enwog o Sbaen a hwyliodd y byd am dair canrif ar agor i ymwelwyr yng Nghei Britannia ym Mae Caerdydd. Gwahoddir y cyhoedd i ddringo ar fwrdd y Galeón Andalucía a phrofi’r amgueddfa hynod ddiddorol hon ddydd Gwener 10 – dydd Sul 12 Mai rhwng 10am ac 8pm.

Creodd llongau mawreddog fel hyn fasnach forwrol fyd-eang rhwng yr 16eg a’r 18fed ganrif trwy hwylio Cefnfor yr Iwerydd, Môr y Caribî, arfordiroedd America a llwybr y Môr Tawel, gan gysylltu Sbaen, America ac Asia.

Mae’r ymweliad yn cynnwys taith gerdded hunan-dywys gyda’r cyfle i archwilio chwe dec, arddangosfeydd rhyngweithiol a dogfennau hanesyddol, gwylio fideos, tynnu lluniau a siarad ag aelodau’r criw.

Mae tocynnau’n costio £12 i oedolion, a £6 i blant 5-10 oed (mae plant dan 5 oed am ddim). Mae tocynnau teulu ar gyfer dau oedolyn a hyd at dri phlentyn ar gael am £30. Argymhellwn archebu ar-lein ymlaen llaw er mwyn osgoi siom: https://bit.ly/3WgiP5E. Gellir prynu tocynnau wrth y llong hefyd. Dylai ysgolion a sefydliadau drefnu eu hymweliad drwy gysylltu ag ecampos@velacuadra.es.

 

Galeón Andalucía – ffeithiau a ffigurau

Ardal y deciau: 3,400 troedfedd²

Hyd: 164 troedfedd

Trawst: 33 troedfedd

Pwysau: 500 tunnell

Mastiau: 3

Hwyliau: 7, yn mesur bron 11,000 troedfedd²

Cyflymder cyfartalog: 7 milltir fôr

Dros y pum mlynedd diwethaf, mae’r llong wedi ymweld â 123 o ddinasoedd ac wedi derbyn dros filiwn o ymwelwyr.

 


Manylion yr arweinydd

Rhestr Cyfarpar

Pris :




May 10, 2024 10:00 am.

Rhannu:

Mwy