Gwaith yn y Gwlyptiroedd

Mae un o warcheidwaid y coetir, Richard Cornock, yn siarad â ni am y tasgau cynnal a chadw yng Ngwarchodfa Gwlyptiroedd Bae Caerdydd yn ddiweddar.

Mae’r gwaith i glirio’r ffos ddraenio yn digwydd bob rhyw 10 mlynedd. Y pwrpas yw agor y ddyfrffordd, clirio’r malurion cronedig a rheoli’r tyfiant coediog, fel helyg a mieri. Mae’r ffos ddraenio yn gronfa ddŵr sy’n bwydo pyllau niferus y warchodfa a’r ddau wely cyrs mawr. Mae’r ffos ddraenio hon yn cyfrif am 5% o’r cyrs, ac mae 80% o’r ffos ddraenio wedi’i chlirio, gan adael 20% yn ystod y gwaith.

Dros y blynyddoedd, rydym wedi colli’r amrywiaeth o blanhigion ymylol ar hyd ymyl y dŵr, yn enwedig planhigion fel gwaedlys mawr. Bydd y cyrs yn gwella’n fuan, ac yn sicr erbyn i’n hadar mudol ddychwelyd i nythu, bydd yr ymyl dŵr yn llawer mwy amrywiol.  Mae’r warchodfa yn dal mwy na digon o gynefin wrth gefn i ganiatáu ar gyfer y gwaith hwn.

Mae’r pwll wedi cael gwaith sylweddol ar un o’r all-lifoedd yn sgil gollwng dŵr.  Yn dilyn pryderon gan Gyfoeth Naturiol Cymru am y dirywiad ym maint y gorchudd cyrs, penderfynwyd trwsio’r all-lif a cheisio codi lefel y dŵr yn ôl i’w uchder dymunol, sef rhyw 300mm yn uwch nag ydyw ar hyn o bryd.

Tynnwyd y cyrs ar yr ymyl ogleddol yn ôl i glirio sawl blwyddyn o dwf a oedd wedi troi’n rafft sych ac a oedd yn dechrau  ymledu i’r prif bwll. Bydd y gwaith hwn nawr yn annog twf newydd ac yn creu cynefin gwell i adar fel telor yr hesg. Dim ond 20% o’r cyrs sydd wedi’u dileu.  Y gobaith yw pan fydd lefel y dŵr yn codi, bydd yn helpu i reoli’r algâu a oedd wedi gafael yn y dŵr mwy bas, cynhesach.

Rwy’n ei gweld hi’n haws ei reoli ac yn sicr mae’n llai dinistriol i wneud y gwaith i gyd mewn un ergyd yn hytrach na thros sawl blwyddyn – bydd y safle bellach yn addas i’n hadar bridio niferus am y 10 mlynedd nesaf. Ni fydd angen ailadrodd y gwaith hwn, ar wahân i bach o waith coedlan blynyddol, am sawl blwyddyn arall.

Rydym wedi bod yn gwneud gwaith coedlan wedi’i dargedu ar y warchodfa ei hun i atal y gwelyau cyrs rhag troi’n goetir. Tra bu gen i’r peiriannau ar y safle, bachais ar y cyfle i greu rhywfaint o ddŵr agored o fewn y gwelyau cyrs yn y brif warchodfa. Nid yw hyn yn fwy na 5% o gyfanswm y gorchudd gwely cyrs fesul llain.

Buom yn defnyddio binocwlars delweddu thermol i arolygu’r safle cyn ac yn ystod y gwaith, a dewis yr amser gorau o’r flwyddyn i wneud y gwaith gan ddefnyddio contractwr amgylcheddol arbenigol a’n staff mewnol ein hunain. Bydd y gwaith yn helpu’r warchodfa i ddatblygu’n gynefin mwy amrywiol.

 

 




March 13, 2024 4:58 pm.

Rhannu:

Mwy