Blagur i flodeuo ar y Morglawdd

Mae’r gwaith wedi gorffen ar ddau wely blodau newydd ar Forglawdd Bae Caerdydd.  Crëwyd y gwelyau blodau, ger ardal chwarae’r plant ac ar hyd Rhodfa’r Bae, gan dîm Parciau Cyngor Caerdydd.

Maent yn cynnwys cyfuniad o rywogaethau brodorol ac anfrodorol a fydd yn denu gloÿnnod byw, gwenyn a phryfed peillio eraill, ac yn blodeuo ar y Morglawdd am gyfnod maith. Bydd y gymysgedd unflwydd, luosflwydd ac eilflwydd yn datblygu ac yn newid dros amser, heb fod angen ei hailblannu bob blwyddyn, gan wneud y gwelyau’n fwy cynaliadwy.

Ariannwyd yr hadau ar gyfer y gwelyau gan Bartneriaeth Natur Leol Caerdydd a chynllun Lleoedd Lleol ar gyfer Natur Llywodraeth Cymru.




May 19, 2021 3:42 pm.

Rhannu:

Mwy