Hwyliwch i Ynys Calan Gaeaf Fwganllyd

Mae’r digwyddiad hwn yn rhan o’n prosiect Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, Ynys Echni - Cerdded Drwy Amser.

Dyddiad ac amser
Dyddiad(au) - October 25, 2025-October 31, 2025
10:00 am-10:00 pm

Yn galw ar bob bwystfil bach (a mawr)! Y Calan Gaeaf hwn, bydd Pentir Alexandra ar Forglawdd Bae Caerdydd yn trawsnewid yn ddigwyddiad gwych i chi a’ch teulu.

Dechreuwch eich taith trwy ymuno â chriw Llong Ysbrydion yng Nghei’r Fôr-Forwyn i fordeithio ar draws y Bae i gyrraedd Ynys Calan Gaeaf yn ofnadwy o hwyliog. Bydd digonedd o driciau, danteithion a bwydydd blasus yn aros amdanoch chi:

  • Pentref Pwmpenni
  • Galiwn wedi’i suddo
  • Gŵyl yr Esgyrn
  • Slime It Live!
  • Disgo Angenfilod
  • Adrodd straeon a sioeau i’r teulu cyfan, gan gynnwys Melltith Ynys Calan Gaeaf gyda Jack a Luna
  • Reidiau ffair
  • Band y Chwiorydd Salem (cyfnos yn unig)
  • Cyfle am luniau
  • Bwyd stryd a diodydd

Mae tocynnau dydd a nos ar gael sy’n cynnwys pwmpen i bob plentyn, taith yno ac yn ôl ar draws y Bae, a mynediad at amrywiaeth o atyniadau ac adloniant.

Tocynnau yn ystod y dydd: 10am-5pm

Tocynnau cyfnos: 5.30pm-10pm

Gallwch brynu tocynnau yma

Bydden ni’n cynghori defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, cerdded neu feicio, os yn bosibl, oherwydd bod rhai o feysydd parcio Bae Caerdydd ar gau dros dro ar gyfer ailddatblygu.

Mae bysiau’n rhedeg yn rheolaidd i’r Bae, ac mae gorsaf drenau Bae Caerdydd yn daith gerdded fer o Gei’r Fôr-Forwyn Am ragor o wybodaeth ewch i www.traveline.cymru.

Gobeithio y byddwch chi’n cael amser da iawn!

 

 


Manylion yr arweinydd

Rhestr Cyfarpar

Pris :




October 25, 2025 10:00 am.

Rhannu:

Mwy