Bywyd ynys! – profiad gwirfoddolwr cadwraeth

Mae’r digwyddiad hwn yn rhan o’n prosiect Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, Ynys Echni - Cerdded Drwy Amser.

Dyddiad ac amser
Dyddiad(au) - September 4, 2023-September 8, 2023
8:15 am-11:00 am

Ydych chi erioed wedi bod eisiau cael y profiad o fyw a gweithio ar ynys?  Dyma’ch cyfle!

P’un a ydych chi’n chwilio am yrfa ym maes gwarchod natur neu ddim ond eisiau gwyliau gwahanol lle gallwch “roi rhywbeth yn ôl” mae hwn yn gyfle unigryw i:

  • Gwrdd â phobl newydd a gwneud ffrindiau newydd.
  • Dysgu sgiliau newydd
  • Profi bywyd ar ynys
  • Gwneud gwahaniaeth

 

Yn ystod y pedair noson yma byddwch yn cael byw a gweithio ar Ynys Echni – sy’n em ym Môr Hafren, yn llawn hanes ac yn gyfoethog o ran bywyd gwyllt fel y gwelwyd yn ddiweddar ar raglen Countryfile y BBC. Drwy weithio ochr yn ochr â’n tîm o wardeniaid yr ynys fe gewch chi:

  • Gyflawni tasgau gwarchod natur hanfodol megis clirio prysgwydd neu reoli glaswelltir i helpu ein gwylanod sy’n nythu
  • Cyfrannu at arolygon bywyd gwyllt fel ein cyfrif nadroedd defaid rheolaidd
  • Helpu adfer a chynnal a chadw adeiladau treftadaeth
  • Cynorthwyo gyda’n teithiau i ymwelwyr

 

Gallwch ddisgwyl gweithio fel tîm am tua 5 – 6 awr bob dydd ond bydd digon o amser i ymlacio a mwynhau’r ynys yn eich amser eich hun.

Yn ogystal, cewch brofiadau o’r ynys nad yw ymwelwyr am y dydd yn eu cael – eistedd allan o dan y sêr, gweld goleuadau dinasoedd a llongau Môr Hafren yn y nos, profi golygfeydd panoramig o fachludau haul gwych yr ynys wrth i chi eistedd o gwmpas tân y gwersyll… ac i’r bore-godwyr mae gweld yr haul yn codi yn gallu bod yn anhygoel!

Dilynwch ôl troed Cadog Sant ac adnewyddwch gydag ychydig ddyddiau o fyw’n symlach yn encil naturiol yr ynys.


SYLWCH FOD Y CWRS HWN YN HUNANARLWYO

Manylion yr arweinydd
Warden a thîm Ynys Echni

Rhestr Cyfarpar
Efallai y byddwch am ddod â sbienddrych ond gwnewch yn siŵr eu bod wedi'u diogelu'n dda ar gyfer y daith ar y cwch

Pris : £170 hunanarlwyo




September 4, 2023 8:15 am.

Rhannu:

Mwy