Ewch ar gwch a thaith gerdded yn y Bae!

Lighthouse Theatre ac Awdurdod Harbwr Caerdydd yn cyflwyno…

Tide-Traveller

Taith ddifyr, ymdrochol, sy’n dathlu pen-blwydd Awdurdod Harbwr Caerdydd (AHC) yn 25 oed.

Mae Lighthouse Theatre yn dychwelyd gyda theithiau perfformio ym Mae Caerdydd ar droed ac ar gwch!

Bydd y sioe hwyliog ac ysgafn hon yn mynd â chi ar daith trwy hanes diddorol y Bae, y Morglawdd ac AHC, gyda straeon, slapstic, clasuron karaoke a siantis môr.

Ewch gyda thywyswyr sy’n actorion a theithio trwy amser, gan gwrdd â chymeriadau fel Dai,sydd wedi bod yn cadw ein traed yn sych ers 25 mlynedd trwy ei waith gydag AHC; Ardalydd Bute; a haid o wyddau.

Dyddiadau’r daith:
Dydd Sadwrn 5 Gorffennaf
Dydd Sul 6 Gorffennaf
Dydd Sadwrn 12 Gorffennaf
Dydd Sul 13 Gorffennaf

Amseroedd y daith:
10am-hanner dydd
1pm-3pm

Lleoliad:
Cwrdd yn adeilad y Pierhead, a gorffen ar Forglawdd Bae Caerdydd, ger y man chwarae.

Cadwch le nawr am £5 y pen yn unig, gan gynnwys taith ar gwch.




July 3, 2025 2:10 pm.

Rhannu:

Mwy