Awdurdod Harbwr Caerdydd: 25 mlwyddiant

Yn 2025, rydym yn dathlu 25 mlynedd o stiwardiaeth, arloesedd a chymuned ym Mae Caerdydd.

Dysgwch am:

  • sut y dechreuodd y cyfan,
  • ein prosiectau a chynnydd yn y bae a’r cyffiniau, a
  • sut y gallwch chi ddathlu gyda ni!
Logo

Llinell Amser

Edrychwch ar ein llinell amser o ddatblygiadau arwyddocaol:

1999

Morglawdd Bae Caerdydd yn agor

Agorwyd Morglawdd Bae Caerdydd yn swyddogol, gan drawsnewid yr aber llanw yn llyn dŵr croyw 200 hectar.

Gosododd y prosiect peirianyddol nodedig hwn y sylfaen ar gyfer adfywio glannau Caerdydd a chreu Awdurdod Harbwr Caerdydd.

2000

CardiffSefydlu Awdurdod Harbwr Caerdydd

Byddai'r Awdurdod yn goruchwylio'r gwaith o reoli Bae Caerdydd ar ôl cwblhau'r morglawdd.

Roedd ei greu yn foment bwysig yn y gwaith o drawsnewid yr hen ddociau yn gyrchfan fywiog ar y glannau. Byddai ei gyfrifoldebau yn ymwneud â:

  • llywio
  • diogelu'r amgylchedd, ac
  • ymgysylltu â'r cyhoedd.

2000 hyd heddiw

Prosiectau seilwaith mawr

Am dros 2 ddegawd, rydym wedi rheoli llawer o ddatblygiadau, gan gynnwys:

  • adeiladu Pont y Werin,
  • Canolfan Dŵr Gwyn Ryngwladol Caerdydd,
  • safleoedd bws dŵr, a
  • gwaith uwchraddio i systemau’r morglawdd a’r loc, i gefnogi llywio diogel a gwell mynediad i'r cyhoedd.

2000 hyd heddiw

Digwyddiadau diwylliannol ac yn y dŵr

Mae Bae Caerdydd yn ganolbwynt bywiog ar gyfer digwyddiadau. Mae wedi cynnal digwyddiadau dros y blynyddoedd, fel:

  • y Gyfres Hwylio Eithafol,
  • Ras Fôr Volvo,
  • Gŵyl Bwyd a Diod Ryngwladol Caerdydd, a
  • Gŵyl Harbwr Caerdydd.

Rydym yn chwarae rhan allweddol wrth gefnogi a rheoli'r digwyddiadau hyn, gan ddenu miloedd o ymwelwyr bob blwyddyn.

2000 hyd heddiw

Mentrau amgylcheddol

Mae'r Awdurdod yn arwain ar lawer o ymdrechion amgylcheddol, gan gynnwys:

  • rheoli cynefinoedd yng Ngwlyptiroedd Bae Caerdydd,
  • monitro ansawdd dŵr, a
  • phlannu'r Goedwig Fach ar y morglawdd.

Rydym hefyd yn cefnogi rhaglenni addysgol ar ecoleg dŵr croyw, cynaliadwyedd a hanes – gan ymgysylltu â phobl ifanc mewn sesiynau ymarferol.

2000 hyd heddiw

Uchafbwyntiau ymgysylltu â'r gymuned

Rydym yn meithrin cysylltiadau cymunedol cryf, trwy waith ymgysylltu fel:

  • allgymorth ysgolion,
  • gosodweithiau celf cyhoeddus,
  • diwrnodau glanhau gwirfoddol, ac
  • arddangosfeydd treftadaeth.

Mae diogelwch dŵr yn fater pwysig. Ers 8 mlynedd, rydym wedi gweithio gydag artistiaid, busnesau, a Theatr na nÓg i gyflwyno'r cynhyrchiad 'Y Naid' arobryn i filoedd o ddisgyblion.

Mae hyn wedi helpu i dynnu sylw at beryglon bedd-faenio a nofio yn y bae a'r afonydd.

Oriel: y gorffennol a’r presennol

Cymharu’r bae dros y 25 mlynedd diwethaf:

Gweithgareddau 25 mlwyddiant

Dysgwch am ein dathliadau 25 mlwyddiant:

Arddangosfa ‘Y Tu Ôl i’r Bae’: 25 mlynedd o Awdurdod Harbwr Caerdydd

Dysgwch straeon heb eu hadrodd am y bobl sy’n cadw Bae Caerdydd i fynd. Mae ‘Y Tu Ôl i’r Bae’ yn arddangosfa ffotograffau drawiadol gan Nick Pumphrey a chyfranwyr eraill.

Mae’r prosiect yn dathlu 25 mlynedd o ymroddiad, arloesedd, ac ysbryd cymunedol yng nghalon yr harbwr.

Ewch i wefan y ffotograffydd i weld lluniau o’r arddangosfa ar-lein.

Gallwch hefyd ymweld â’r arddangosfa ar yr amseroedd ac yn y lleoedd canlynol:

  • Haf 2025 – Bae Caerdydd
  • Hydref 2025 – Castell Caerdydd
  • Gwanwyn 2026 – Eglwys Norwyaidd

Taith berfformiadol ‘Tide-Traveller’

Ym mis Gorffennaf 2025, fe wnaethom ymuno â’r Lighthouse Theatre i greu taith berfformio ymdrochol. Cafodd cynulleidfaoedd eu tywys ar daith trwy hanes cyfoethog y bae, ar droed ac ar gwch, gan gynnig:

  • straeon a phrofiadau,
  • comedi slapstic,
  • clasuron karaoke,
  • caneuon morwyr, a
  • chwrdd â chymeriadau fel Ardalydd Bute a haid o wyddau.

Cystadleuaeth ‘dylunio baner y bae’ i ysgolion

I ddathlu ein 25 mlwyddiant, fe wnaethom gynnal cystadleuaeth i blant oedran ysgol gynradd i ddylunio poster sy’n nodi’r hyn y mae Bae Caerdydd yn ei olygu iddyn nhw.

Hoffem ddiolch i bawb a gymerodd ran – roedd yr holl geisiadau yn wych!

Ceisiadau buddugol

Bydd y 25 poster buddugol yn cael eu harddangos ar hyd llwybr gerdded y Morglawdd yn ystod yr haf. Mae dros 1 miliwn o bobl yn ymweld â’r Morglawdd bob blwyddyn, felly bydd eich gwaith celf yn enwog!

Cofnodion canmoladwy

Edrychwch ar weddill ein ceisiadau gwych, a grëwyd gan artistiaid ifanc talentog ledled Caerdydd: