Mae croeso i aelodau’r cyhoedd bostio sylwadau, lluniau a fideos ar ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol Bae Caerdydd, ond byddwch yn ymwybodol bod eich cyfraniadau’n gyhoeddus ac ar gael i unrhyw un sy’n ymweld â’n cyfrifon.
Mae sylwadau ac atebion ar ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol yn adlewyrchu barn y sawl sy’n eu cyflwyno, ac nid ydynt yn adlewyrchu polisi Awdurdod Harbwr Caerdydd (AHC).
Mae unrhyw beth a gaiff ei roi ar ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol, neu atebion i’n negeseuon hefyd yn ddarostyngedig i bolisïau’r darparwr e.e. Facebook, Instagram, You Tube.
Er mwyn diogelu eich preifatrwydd, a phreifatrwydd pobl eraill, peidiwch â chynnwys gwybodaeth bersonol na chyfrinachol yn eich sylwadau neu’ch ymatebion – oni bai ein bod yn gofyn am y rhain yn uniongyrchol drwy negeseuon preifat neu uniongyrchol.
Nid yw sylwadau ac atebion ar ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol yn cael eu cymedroli cyn eu postio, ond rydym yn cadw’r hawl i gael gwared ar unrhyw ddeunydd sydd:
- yn achosi risg diogelwch neu breifatrwydd.
- yn cynnwys gwybodaeth gyfrinachol amdanoch chi eich hun, neu rywun arall.
- yn cyfeirio at weithwyr y AHC yn ôl eu henw.
- yn cael eu hystyried yn sbam neu’n hysbysebion masnachol.
- yn anghyfreithlon, yn aflonyddu, yn sarhaus neu’n fygythiol.
- yn anllad, yn awgrymog yn rhywiol neu’n cynnwys rhegi.
- Yn hiliol, homoffobig, oedraniaethol, rhywiaethol neu’n cael eu hystyried yn sarhaus i unrhyw grŵp o unigolion.
- yn torri cyfraith eiddo deallusol neu gyfraith hawlfraint.
- Mewn unrhyw ffordd arall, yn cael ei ystyried yn ddeunydd sarhaus neu amhriodol ar gyfer y dudalen hon.
Bydd torri’r rheolau hyn dro ar ôl tro yn golygu y bydd eich cyfrif yn cael ei atal o’n cyfrifon cyfryngau cymdeithasol. Mewn achosion difrifol, efallai y byddwn yn rhoi gwybod i’r heddlu am sylwadau.
Ni fydd sylwadau a wnewch ar gyfryngau cymdeithasol yn effeithio ar y gwasanaeth a gewch gan AHC nac yn dylanwadu arno.
Nid yw AHC yn cymeradwyo nac yn cymryd cyfrifoldeb am unrhyw ddeunydd y gellir ei gyrraedd drwy ddolenni a bostiwyd ar ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol. Pan fyddwch yn dilyn dolen, cofiwch eich bod yn gadael cyfrifon AHC. Gall AHC rannu gwybodaeth am grwpiau cymunedol ar y cyfryngau cymdeithasol os yw’n briodol i’n cynulleidfa ac yn gydnaws â phwrpas y cyfrif.
Nid yw AHC yn gwarantu bod unrhyw wybodaeth a bostiwyd gan unigolion ar ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol yn gywir ac yn diarddel unrhyw atebolrwydd am unrhyw golled neu ddifrod sy’n deillio o ddibynnu ar y wybodaeth hon.
Dim ond gweithwyr AHC sy’n gweithredu yn rhinwedd eu swydd swyddogol sydd wedi’u hawdurdodi i weinyddu ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol.
Mae AHC yn cadw’r hawl i ddileu’r swyddogaeth sylwadau ar unrhyw adeg os yw’n cael ei gam-drin.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau am y polisi uchod neu os hoffech roi gwybod am sylw, defnyddiwch ein ffurflen ‘cysylltu â ni’.
Diolch.
March 5, 2026 1:11 pm.
Rhannu: