Mae’r digwyddiad hwn yn rhan o’n prosiect Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, Ynys Echni - Cerdded Drwy Amser.
Dyddiad ac amser
Dyddiad(au) - April 6, 2024
9:30 am-12:30 pm
Yr hyn yr ydym yn chwilio amdano
Rydym yn chwilio am grŵp amrywiol o bobl sy’n frwd dros hanes a natur i arwain teithiau o amgylch Ynys Echni.
Y bwriad yw i’n hyfforddiant tywysydd teithiau hanner diwrnod roi rhagflas o’r hyn sy’n gysylltiedig â dod yn dywysydd teithiau
gwirfoddol ar Ynys Echni. Ar ôl yr hyfforddiant, byddwch yn gallu penderfynu a yw bod yn dywysydd teithiau gwirfoddol
yn iawn i chi.
Ar ôl i chi ymrwymo i ddod yn dywysydd teithiau gwirfoddol, bydd diwrnod hyfforddiant
ar yr ynys lle byddwch yn dilyn hyfforddiant ar elfennau diddorol yr ynys, gan gynnwys daeareg, hanes,
treftadaeth a natur yn ogystal â dysgu am iechyd a diogelwch o ran tywys teithiau ar yr ynys. Yna
cewch gyfle i gysgodi a chael eich mentora gan dywysydd teithiau profiadol cyn cynnal eich taith eich hun
pan fyddwch yn hyderus i wneud hynny.
Rhaglen Hyfforddiant
Byddwn ni, Cyngor Caerdydd a Chymdeithas Ynys Echni, yn sicrhau bod yr holl dywyswyr teithiau’n derbyn hyfforddiant iechyd a diogelwch priodol ar gyfer y rôl a hyfforddiant ar hanes yr ynys, a’u bod yn cael eu mentora hefyd gan dywysydd teithiau profiadol cyn cynnal eu teithiau eu hunain o’r ynys.
Gweithdy Un: Hyfforddiant Tywys Teithiau Proffesiynol gyda Griffin Guiding.
Dysgwch y sgiliau proffesiynol allweddol sydd eu hangen gan gynnwys:
• Cyfathrebu Da
• Darparu Sylwadau Effeithiol
• Defnyddio eich Prif Flaenoriaethau Gweledol
• Y dull o ateb cwestiynau
Mae hwn hefyd yn gyfle i siarad â’r tywyswyr teithiau presennol a chael gwybod mwy am yr hyn sy’n gysylltiedig â bod yn dywysydd
teithiau ar Ynys Echni.
Efallai y bydd rhai o’r gweithgareddau yn yr awyr agored, sicrhewch eich bod yn dod â dillad priodol ar gyfer hyn.
Dyddiad: 6 Ebrill Amser: 9.30-12.30. Lleoliad: Tŷ’r Frenhines Alexandra, Cargo Road, Caerdydd, CF10 4LY.
Gweithdy Dau: Ymweliad Ymgyfarwyddo â’r Ynys
Yn dilyn gweithdy un, bydd ymweliad dydd â’r ynys er mwyn i dywyswyr teithiau newydd ymgyfarwyddo â’r llwybr, y gofynion iechyd a diogelwch a chynnwys y teithiau. Dyddiad ac amser i’w cadarnhau.
Mentora Tywyswyr Teithiau
Yn dilyn hyn, cewch gyfleoedd i gysgodi tywysydd teithiau presennol a chynnal taith gyda chymorth tywysydd teithiau presennol.
Pan fyddwn yn fodlon eich bod yn hyderus ac yn gymwys i gynnal teithiau diogel ac o ansawdd uchel i ymwelwyr, cewch gymeradwyaeth i gynnal teithiau’n annibynnol.
Beth fydd angen ei wneud?
Mae ein tymor ymwelwyr arferol yn rhedeg o fis Mawrth i fis Hydref. Dim ond yn y 3 awr cyn a hyd at benllanw y gellir glanio ar Ynys Echni, felly weithiau gall y cyhoedd ymweld â’r ynys ar ddiwrnodau olynol ac ar adegau eraill ni fydd modd i’r cyhoedd ymweld â hi. Dylai tywyswyr teithiau ddisgwyl ymrwymo i tua 5 awr o wirfoddoli y dydd. Fel arfer mae’r diwrnod yn dechrau drwy gyfarfod y cwch yng Nghei’r Fôr-Forwyn ac mae disgwyl i’r gwirfoddolwyr gyrraedd yn gynnar i gyfarch yr ymwelwyr ac ateb unrhyw gwestiynau sydd ganddyn nhw am yr ynys. Wedi cyrraedd yr ynys, bydd aelod o dîm yr ynys yn cyfarch yr ymwelwyr ac yn rhoi sgwrs iechyd a diogelwch. Ar ôl hynny, bydd y tywysydd teithiau’n arwain yr ymwelwyr hynny sy’n dymuno mynd ar y daith o amgylch yr ynys am tua 2 awr. Bydd y tywysydd teithiau yn dychwelyd y grŵp i’r ganolfan ymwelwyr yn y Barics lle gallant brynu diodydd neu fyrbrydau yn y dafarn a’r siop roddion neu wneud defnydd o’r gofod awyr agored i gael picnic. Mae’r daith yn dod i ben wedi i’r cwch ddychwelyd i Fae Caerdydd ac wedi i’r teithwyr adael y cwch. Gofynnir i dywyswyr teithiau ddosbarthu holiaduron syml i’w grŵp tywys teithiau a’u casglu ar ôl iddynt gael eu cwblhau a bydd disgwyl i dywyswyr teithiau eu hunain lenwi ffurflen syml i ddweud faint o ymwelwyr a fynychodd a sut aeth y daith ar ôl dychwelyd.
Beth yw’r ymrwymiad?
Er mwyn mynd gyda grwpiau o ymwelwyr i’r ynys fel tywysydd teithiau, mae’n rhaid i chi ymuno â Chymdeithas Ynys Echni (£15 am aelodaeth flynyddol) gan fod y gymdeithas yn cydlynu’r rota ar gyfer holl dywyswyr teithiau’r ynys. Bydd yr aelodaeth nid yn unig yn eich galluogi i ymweld â’r ynys am ddim fel tywysydd teithiau (sy’n costio £32-£45 fesul ymweliad fel arfer) ond bydd hefyd yn eich galluogi i gymryd rhan, am ddim, mewn cymaint o deithiau preswyl gwirfoddoli’r gymdeithas ag yr hoffech gymryd rhan ynddynt. Mae’r gymdeithas hefyd yn cynnal ystod o ddigwyddiadau cymdeithasol a digwyddiadau i wirfoddolwyr drwy gydol y flwyddyn ar y tir mawr.
Fel rhan o’r gymdeithas, gallwch wirfoddoli ar gyfer cymaint o deithiau ag yr hoffech, fodd bynnag, disgwylir ymrwymiad cadarn ar ôl i chi gadarnhau y byddwch yn mynychu taith. Gall methu â mynychu olygu na fyddwn yn defnyddio eich gwasanaeth ar gyfer teithiau yn y dyfodol (amgylchiadau eithriadol wedi’u heithrio). Dyrennir teithiau ar y sail y cyntaf i’r felin.
Pa sgiliau sydd eu hangen?
- Hoffem gael gwirfoddolwyr sy’n frwdfrydig, ac sy’n gallu cyfathrebu hanes, treftadaeth a
natur mewn ffordd ddiddorol i gynulleidfa. - Hoffem gael gwirfoddolwyr sydd ag agwedd bositif a chynhwysol sy’n gyfforddus wrth siarad yn gyhoeddus a
rhyngweithio â phobl o bob oed a gallu. - Mae angen i wirfoddolwyr fod yn hyderus wrth arwain a rheoli’r grŵp ac wrth ddelio’n
briodol ac yn broffesiynol gydag unrhyw sefyllfaoedd wrth iddynt godi. Darperir hyfforddiant ar hyn. - Mae angen i wirfoddolwyr gadw at gyfarwyddiadau warden yr ynys a pheidio mynd i mewn i ardaloedd neu adeiladau na chaniateir iddynt fynd i mewn iddynt
. - Hoffem gael gwirfoddolwyr sy’n gallu rheoli iechyd a diogelwch grwpiau; mae hyn yn cynnwys sicrhau bod y grŵp yn gwrando
ar sgyrsiau iechyd a diogelwch gan staff yr ynys a sicrhau bod y cyhoedd yn dilyn llwybrau ac yn osgoi ardaloedd
na chaniateir iddynt ymweld â nhw. - Mae angen i wirfoddolwyr allu cadw amser yn dda – gan sicrhau bod ymwelwyr yn dychwelyd i’r ganolfan ymwelwyr ar yr ynys yn y
Barics mewn pryd i ymweld â’r siop neu i gael eu picnic. - Oherwydd natur yr ynys, mae angen i wirfoddolwyr allu symud yn dda a bod yn barod i gerdded mewn
gwahanol amodau tywydd (byddwch yn gyfrifol am gyrchu eich dillad tywydd priodol eich hun). - Mae angen gwirfoddolwyr sy’n amyneddgar ac sy’n deall natur yr ynys; gallai teithiau gael eu canslo ar fyr
rybudd oherwydd y tywydd. Yn brin iawn, mae amgylchiadau annisgwyl wedi gohirio’r
daith yn ôl o’r ynys. - Un o brif nodweddion yr ynys yw’r nythfa gwylanod. Yn ystod y tymor nythu, mae’r gwylanod yn eithaf amddiffynnol o’u
nythod a all fod yn frawychus i rai pobl. Mae angen gwirfoddolwyr sy’n hyderus yn eu gallu i ddelio â
hyn, ac i dawelu meddyliau unrhyw ymwelwyr nerfus. Byddwn yn dangos i chi sut i gynnal y daith i leihau unrhyw broblemau.
Manylion yr arweinydd
Stephen Griffin
Wales Blue Badge Tourist Guide
Rhestr Cyfarpar
Pris : Free
April 6, 2024 9:30 am.
Rhannu: