Ewyn y don a’r awyr – gweithdy Celf (Mai)

Mae’r digwyddiad hwn yn rhan o’n prosiect Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, Ynys Echni - Cerdded Drwy Amser.

Dyddiad ac amser
Dyddiad(au) - May 3, 2024 - May 5, 2024
2:00 pm - 4:00 pm

Mae’r cwrs hwn yn addas i bawb sy’n frwd dros gelf a natur, o ddechreuwyr i unigolion mwy profiadol. Byddwn yn ceisio archwilio Ynys Echni drwy edrych i lawr arni – a chanolbwyntio ar yr awyr a’r dŵr. Ar y diwrnod cyntaf, byddwn yn cofnodi’r newidiadau y mae’r golau, yr amser o’r dydd ac amodau’r tywydd yn eu cael ar y dirwedd o ran lliw, ffurf a thrawiadau’r brwsh.

Byddwn yn dechrau creu dyfrlliwiau argraffiadol y tu allan, gan archwilio posibiliadau halen, gwrthyddion a  a thechnegau gwasgaru gyda thiwtor profiadol. Mae’r gweithdy’n gobeithio dal rhai o’r newidiadau atmosfferig ar Ynys Echni, yn amrywio o lonyddwch llachar gyda chyfuchliniau miniog a lliwiau anniffiniol y ddaear, i fachlud haul trawiadol a thonnau dramatig.

Ar ein hail ddiwrnod, byddwn yn dechrau ffurfioli ein gwaith arsylwadol ar bapur, gan astudio’n agosach  nodweddion neu ddeunyddiau a ddarganfuwyd ar yr ynys. O’n brasluniau cychwynnol a’n harsylwadau agosach, byddwn yn dewis persbectif neu gynllun lliw yr hoffem ei archwilio mewn cyfrwng arall.  Yn ystod ail ran a rhan olaf y gweithdy, byddwn yn trosglwyddo ein gwaith i ddyluniad sy’n gwrthsefyll cwyr ar bapur neu fel sgarff cotwm neu sidan neu ddefnydd i’w hongian.


Manylion yr arweinydd
Bev Gil-Cervantes BA (Anrh), TAR

Mae Bev yn artist a thiwtor profiadol gyda mwy nag ugain mlynedd o brofiad fel artist proffesiynol, gan gynhyrchu darluniau, gwaith crefft ac arddangosfeydd mewn paent, print, tecstilau, a chyfryngau cymysg. Ar hyn o bryd mae'n dysgu celf a dylunio ac yn arwain gweithdai i bob oedran a gallu mewn ystod eang o leoliadau.

Rhestr Cyfarpar
HANFODOL Llyfr braslunio cetrisen a llyfr braslunio dyfrlliw, ystod o frwsys dyfrlliw, set fach o baent dyfrlliw, ystod o bensiliau (2H i 8B), rhwbiwr, naddwr, i gyd mewn ces pensiliau DYMUNOL Ffolder/cludwr celf polythen maint A3. Llyfrau braslunio caled (a restrir uchod), clustog eistedd maint A4.

Pris : £260




May 3, 2024 2:00 pm.

Rhannu:

Mwy