Bychan a Nerthol: Ynys Echni yn y Rhyfel, Taith Dywys Arbenigol

Mae’r digwyddiad hwn yn rhan o’n prosiect Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, Ynys Echni - Cerdded Drwy Amser.

Dyddiad ac amser
Dyddiad(au) - June 30, 2024
11:00 am-3:00 pm

Mae’r daith dywys arbennig hon yn gyfle gwych i ddysgu am y rôl y mae’r gaer-ynys fechan hon wedi’i chwarae wrth amddiffyn y deyrnas dros ddwy ganrif. Cyfle i glywed o lygad y ffynnon gan yr arbenigwr milwrol Dr Jon Berry am olion milwrol Ynys Echni a bywyd yn ystod y rhyfel ar yr ynys hynod ddiddorol hon yng Nghymru.

Bydd y Cwch RIB cyflym yn gadael pwynt gadael deheuol Morglawdd Bae Caerdydd am 11am ac yn dychwelyd i Fae Caerdydd am 3pm. Hon yw’r bont lanio yn union o flaen bwyty’r Tollty, ger Maes Parcio Talu ac Arddangos Morglawdd Bae Caerdydd. Y Cod Post yw CF64 1TT. Rhoddir trwydded parcio diwrnod am ddim wrth gyrraedd.

Sicrhewch eich bod yn caniatáu digon o amser i gyrraedd gan y bydd y cwch yn gadael yn union ar amser ac ni fydd yn gallu aros i bobl sy’n cyrraedd yn hwyr.

COST

£50 – mae hyn yn cynnwys eich taith ar y cwch o Fae Caerdydd, y ffioedd glanio, a’r daith dywys.

YMWADIAD

Sylwer mae trydydd parti sy’n darparu’r daith ar y cwch i’r ynys a rhaid sicrhau eich bod yn gallu bodloni eu telerau ac amodau nhw cyn archebu lle – gweler https://www.bayislandvoyages.co.uk/disclaimer-tcs/

GWYBODAETH

Mae Ynys Echni oddeutu pedair milltir i’r de o Gaerdydd ym Môr Hafren a galwyd arni yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg ac yn yr ugeinfed ganrif i helpu amddiffyn y Deyrnas rhag bygythiadau allanol.  Roedd yr amddiffynfeydd Fictoraidd yn rhan o drefniant o ‘ffrigadau cerrig’, ac roedd gynnau diflannu Moncrieff diddorol Ynys Echni o gymorth wrth amddiffyn rhannau uchaf Môr Hafren ac Aber Afon Hafren.  Mae’r batris gynnau a’r llety i filwyr wedi’u cadw’n dda a bydd ymwelwyr yn gallu deall sut roedd yr amddiffynfeydd yn gweithredu, gweld lle roedd y gynnau’n cuddio a sut roedd y milwyr yn byw eu bywydau ar yr ynys.

Roedd dwysâd y bygythiad o fomio o’r awyr yn un o nodweddion arwyddocaol yr Ail Ryfel Byd, a gosodwyd yno set newydd o fatris gynnau arfordirol a gwrth-awyrennau cyfun ynghyd â chwiloleuadau pwerus, radar, a llety a oedd yn ffurfio rhan o gadwyn o amddiffynfeydd o amgylch porthladd strategol pwysig Caerdydd.  Bydd ymwelwyr yn dysgu sut roedd y rhain yn gweithio ar y cyd â’r amddiffynfeydd eraill i gynnig amddiffyniad.

Mae gweld cymaint o amddiffynfeydd milwrol wedi goroesi mewn cyflwr mor dda mewn gofod mor fychan yn rhyfeddol, a bydd ymwelwyr yn gallu gwerthfawrogi a deall pam y cafodd y rhain eu codi, sut roeddent yn gweithredu, pam y cefnwyd arnynt yn y pen draw a sut y cânt eu rheoli nawr fel gwaddol barhaol i ddau ddigwyddiad a ddiffiniodd y bedwaredd ganrif ar bymtheg a’r ugeinfed ganrif.

SUT I ARCHEBU – I gael rhagor o wybodaeth ac i archebu, e-bostiwch: digwyddiadauynysechni@caerdydd.gov.uk

Oherwydd capasiti’r cwch, dim ond 11 lle sydd ar gael.


Manylion yr arweinydd
Jon Berry

Jon Berry yw Uwch Arolygydd Henebion ac Archaeoleg Cadw.  Mae ganddo ddiddordeb ers amser maith mewn archaeoleg gwrthdaro modern ac mae’n un o arbenigwyr arweiniol y rhan bwysig hon o hanes Cymru.  Mae ei PhD ar amddiffynfeydd gwrth-ymosodiadau’r Ail Ryfel Byd yng Nghymru.

Rhestr Cyfarpar
Sicrhewch eich bod yn gwisgo dillad addas ar gyfer treulio sawl awr yn yr awyr agored ac ar ynys agored ac esgidiau sy’n addas ar gyfer arwynebau anwastad a llithrig. Argymhellir siaced a throwsus sy’n dal dŵr ar gyfer y daith ar y cwch a dylai unrhyw offer bregus gael ei ddiogelu rhag dŵr a sioc (e.e., camerâu mewn cesys). Oherwydd lle cyfyngedig yn y cwch, dylech geisio dod â chyn lleied o gyfarpar â phosibl. Bydd amser ar ddiwedd y daith i fwynhau lluniaeth yn ein tafarn fach “The Gull and Leek” - dewch ag arian parod i brynu eitemau gan na allwn gymryd taliadau cerdyn.

Pris : WEDI GWERTHU ALLAN!




June 30, 2024 11:00 am.

Rhannu:

Mwy