Anturiaethau mewn Ysgrifennu Creadigol (Awst)

Mae’r digwyddiad hwn yn rhan o’n prosiect Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, Ynys Echni - Cerdded Drwy Amser.

Dyddiad ac amser
Dyddiad(au) - August 23, 2024 - August 25, 2024
8:00 am - 11:00 am

Gyda’i harddwch naturiol cyfoethog a’i hanes diddorol, Ynys Echni yw’r lle delfrydol i ysbrydoli eich ysgrifennu creadigol. Mae’r cwrs hwn yn addas ar gyfer dechreuwyr llwyr a’r rhai sydd â rhywfaint o brofiad ysgrifennu.

Mae’n gyfle i archwilio hanes a thirwedd gyfoethog Ynys Echni wrth ddatblygu eich ymarfer ysgrifennu eich hun.

Drwy gydol eich arhosiad, cewch eich annog i gadw dyddiadur i ddogfennu mewn barddoniaeth a rhyddiaith eich profiad unigryw eich hun o aros ar Ynys Echni.

Mae’r cwrs wedi’i strwythuro i ganiatáu amser ar gyfer myfyrdod tawel, hwyluso agored, cefnogol a chyfle i ddod at eich gilydd i rannu straeon a’r daith ysgrifennu. Fe’ch anogir i fyfyrio wrth ysgrifennu, gan ddefnyddio’ch holl synhwyrau wrth i chi archwilio’r ynys.

Gan ddefnyddio ysgrifennu rhydd i annog llif creadigol, bydd cyfle hefyd i ymarfer ysgrifennu mewn ffurfiau mwy strwythuredig fel Haiku – ffordd berffaith o ddal cipluniau ac eiliadau allweddol o’ch profiad o’r  ynys.

 


Manylion yr arweinydd
Sarah Featherstone

Mae Sarah Featherstone yn arlunydd ac awdur o Gaerdydd. Mae ganddi MA mewn Ysgrifennu Creadigol o Gaerfaddon, ac mae wedi bod yn diwtor cymunedol am chwe blynedd, gan weithio gyda grwpiau amrywiol o oedolion a phlant mewn sawl lleoliad. Mae'n cynnal dosbarthiadau ar gyfer rhaglen addysg oedolion Cyngor Caerdydd ac mae’n aelod o sefydliad Celfyddydau er Lles Breathe Creative. Mae'n ysgrifennu barddoniaeth, sgriptiau a straeon byrion ac mae ganddi ddiddordeb mewn sut y gall ysgrifennu a chelf wella lles meddyliol a chorfforol.

Rhestr Cyfarpar
HANFODOL Beiros, pensiliau a llyfrau nodiadau sy'n addas ar gyfer gweithio yn yr awyr agored DYMUNOL Efallai y byddwch am ddod â gliniadur neu lechen, fodd bynnag, gwnewch yn siŵr ei fod wedi'i ddiogelu'n dda rhag yr elfennau ar gyfer y daith ar y cwch a nodwch fod lle ar y cwch yn gyfyngedig

Pris : £260




August 23, 2024 8:00 am.

Rhannu:

Mwy