Llwybr Bae Caerdydd

Mae’r llwybr celf a threftadaeth cylchol hwn i gerddwyr a beicwyr oddeutu 10km (6.2 milltir) o hyd. Mae’n ymestyn drwy’r Bae, dros y Morglawdd a hyd at dref glan môr Penarth dros Bont y Werin. Pont 140m yw hon, sy’n cynnig cyswllt i gerddwyr a beicwyr rhwng Penarth a’r Pentref Chwaraeon Rhyngwladol.

Ar hyd y llwybr, gallwch fwynhau treftadaeth gyfoethog Caerdydd a gweld tirnodau hanesyddol, fel yr Eglwys Norwyaidd, yn ogystal â strwythurau eiconig fel Canolfan Mileniwm Cymru fyd-enwog a’r Senedd, adeilad Senedd Cymru.

Mae ei gaffis, bariau a bwytai glan y dŵr yn gwneud y Bae yn unigryw a deniadol, ac mae digon o ddewis, p’un a ydych chi’n chwilio am leoliad tawel neu un bywiog.

Rhannwch eich lluniau a dynnwyd ar y llwybr trwy’r cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio #BaeCaerdydd.

Lawrlwythwch fap Llwybr Bae Caerdydd

 

 




June 1, 2023 11:29 am.

Rhannu:

Mwy