Digwyddiad diogelwch dŵr – Dydd Mawrth 20 a Dydd Mercher 21 Mehefin

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru (GTADC) yn cynnal digwyddiad diogelwch dŵr cyhoeddus ddydd Mawrth 20 a dydd Mercher 21 Mehefin ym mhontŵn bws dŵr Parc Bute ar Afon Taf.

Rhwng 12pm a 6pm ar y ddau ddiwrnod, bydd GTADC yn bresennol gyda chwch achub i gynnal arddangosiadau amrywiol, fel sut i arnofio os byddwch yn syrthio i’r dŵr, a sut y caiff llinellau taflu, polion cyrraedd a chamerâu tanddwr eu defnyddio.

Ni ddylai ymwelwyr boeni am bresenoldeb criwiau brys yn yr ardal.




June 20, 2023 11:38 am.

Rhannu:

Mwy