Trefniadau CAU Safle: Morglawdd Bae Caerdydd

Oherwydd digwyddiadau tocynnau a gynhelir ar Bentir Alexandra, bydd safle’r Morglawdd ar gau i’r rhai heb docynnau o gylchfan Porth Teigr i’r rhan o’r Morglawdd sydd agosaf at Benarth ar:

Nos Iau 16 Medi rhwng 4.30pm a hanner nos

Dydd Gwener 17 Medi rhwng canol dydd a 12.30am

Dydd Sadwrn 18 Medi rhwng canol dydd a 12.30am

Dydd Sul 19 Medi rhwng canol dydd a hanner nos

Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra a achosir.

Os oes gennych docyn, bydd y ffordd i mewn ac allan ar gyfer y digwyddiadau ger cylchfan Porth Teigr (pen y Bae o Lwybr y Morglawdd).

Oes oes gennych unrhyw ymholiadau am y digwyddiadau neu os ydych eisiau gwybodaeth am y dewisiadau o ran trafnidiaeth gyhoeddus a pharcio, mynediad i’r anabl, gofynion mynediad Covid ac ati, ewch i wefan y trefnydd.




October 27, 2021 10:16 am.

Rhannu:

Mwy