Croeso cynnes iawn i warden newydd Ynys Echni, Simon Parker!
Ar ôl gweithio fel peiriannydd hofrennyddion i’r Llynges Frenhinol, darganfu Simon ei angerdd am gadwraeth wrth wirfoddoli gydag ymddiriedolaethau bywyd gwyllt a dod yn Geidwad i’r Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt.
Ers y pandemig, mae wedi bod yn beiriannydd i’r Red Arrows, ond bellach mae’n croesawu’r her newydd yma: “Dwi wastad wedi bod â diddordeb mewn byw y tu allan i’r brif ffrwd. Dwi wedi gwirfoddoli ar yr ynys ddwywaith o’r blaen ac wrth fy modd gyda’r unigrwydd a’r bywyd amrwd, dwi’n brwydro yn erbyn bywyd dof!”
Mae’n mwynhau dringo, rhedeg dros bellteroedd, gwersylla gwyllt, teithio, ysgrifennu, barddoniaeth y gair llafar a natur. Nid yn unig y mae wedi cerdded o Fecsico i Ganada, mae hefyd wedi cystadlu mewn digwyddiadau rhedeg 24 awr, gan glocio 110 o filltiroedd. Byddai hynny’n cyfateb â rhedeg hyd Ynys Echni 285 a hanner o weithiau. Gwell dechrau arni de…
Rydyn ni’n falch iawn o gael Simon yn rhan o’r tîm ac mae’n edrych ymlaen at fywyd unigryw’r ynys: “Rwy’n gyffrous ynghylch cwrdd â’r amrywiaeth eang o bobl sy’n ymweld a chlywed eu straeon, y newid drwy’r tymhorau, gweld y bywyd gwyllt yn mynd a dod, gan helpu pobl i ddeall pwysigrwydd ein cynefinoedd prin, arafu cyflymder bywyd a byw yn fwy pwrpasol.”
March 20, 2023 1:05 pm.
Rhannu: