Morglawdd Bae Caerdydd

Oherwydd digwyddiad ym Mhentir Alexandra, bydd Morglawdd Bae Caerdydd ar gau o 3pm (15 Medi) tan tua 11.30pm. Bydd cychod yn dal i allu mynd i mewn i Fae Caerdydd a’i adael drwy’r llifdorau.

Bydd deiliaid tocynnau yn gallu cael mynediad i’r digwyddiad o ben Porth Teigr y Morglawdd yn unig. Nid oes modd cael mynediad o ochr Penarth. Bydd angen i unrhyw un sy’n dymuno cerdded neu feicio i’r digwyddiad o Benarth groesi’r Morglawdd i Borth Teigr cyn 3pm, neu groesi Pont y Werin.

Bydd Cei Britannia / Rhodfa’r Harbwr / Ffordd Porth Teigr (wrth y gylchfan ger y ffordd fynediad i’r Morglawdd) ar gau o 3pm hefyd.

Bydd modd parcio yn Neuadd y Sir o ganol dydd (£5).

Bydd dal modd pysgota ar yr Arglawdd allanol




September 13, 2022 9:03 am.

Rhannu:

Mwy