Ynys Echni’n ailagor i ymwelwyr

Mae teithiau dydd yn ailddechrau ar Ynys Echni o ddydd Sadwrn 3 Gorffennaf ar gwch RIB cyflym.

Bydd y ddihangfa dair awr i’r ynys yn cynnwys sgwrs groeso gan y warden; teithiau wedi eu hunan-arwain yn edrych ar hanes a bywyd gwyllt diddorol Ynys Echni; ac ymweliad â’r Gull a Leek, tafarn fwyaf ddeheuol Cymru.

Bydd cyfyngiadau Covid, fel gwisgo gorchuddion wyneb a chadw pellter cymdeithasol, ar waith er diogelwch. 

I gael gwybodaeth fanwl, mwy o ddyddiadau ac i archebu lle, ewch i: www.bayislandvoyages.co.uk/booking-flat-holm-visit/.

I gael gwybod mwy am yr ynys, ewch i: https://cardiffharbour.com/cy/ynysechni/.




July 1, 2021 1:51 pm.

Rhannu:

Mwy