Digwyddiad Diwrnod Atal Boddi y Byd

Bydd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru (GTADC) yn cynnal digwyddiad diogelwch dŵr ar Forglawdd Bae Caerdydd i nodi Diwrnod Atal Boddi y Byd Ddydd Mawrth 25 Gorffennaf.

Caiff ei gynnal rhwng 1.30pm a 5pm ger ardal chwarae’r plant, bydd y digwyddiad rhad ac am ddim i dynnu sylw at ymwybyddiaeth o ddiogelwch dŵr yn cynnwys GTADC, Heddlu De Cymru, Gwylwyr y Glannau a’r RNLI.

Gall y cyhoedd hefyd wylio cychod yn arddangos achub ar y dŵr am 2.45pm a 3.45pm.

Mae boddi wedi achosi dros 2.5 miliwn o farwolaethau dros y degawd diwethaf.  Nod Diwrnod Atal Boddi y Byd yw pwysleisio mai mater iechyd cyhoeddus yw hwn – gall unrhyw un foddi, ond ni ddylai unrhyw un.




July 24, 2023 11:38 am.

Rhannu:

Mwy