Cau’r morglawdd – Dydd Mercher 30 Tachwedd a dydd Iau 1 Rhagfyr

Bydd Morglawdd Bae Caerdydd ar gau am ddeuddydd yn sgil ffilmio’r gyfres antur boblogaidd, Alex Rider ar gyfer Amazon Prime.

Ddydd Mercher 30 Tachwedd rhwng 7am a 9pm, a dydd Iau 1 Rhagfyr o 7am tan 9pm, ni fydd modd i gerddwyr na beicwyr gyrraedd llwybr y Morglawdd o ochr Penarth i gaffi’r Morglawdd.

Bydd maes parcio’r Morglawdd a’r fraich bysgota hefyd ar gau i ymwelwyr yn ystod yr amseroedd hyn.

Bydd modd mynd at yr ardal chwarae a’r parc sglefrfyrddio, ond dim ond o ochr Bae Caerdydd i’r Morglawdd. Bydd mynediad i gychod yn parhau fel arfer trwy’r cloeon.

Cynghorir cerddwyr a beicwyr sydd angen mynediad rhwng Penarth a Bae Caerdydd i ddefnyddio Pont y Werin.

Dymuna Awdurdod Harbwr Caerdydd ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra a achosir.




November 21, 2022 3:47 pm.

Rhannu:

Mwy