Cau’r morglawdd – Dydd Mercher 15 a Dydd Iau 16 Chwefror

Bydd Morglawdd Bae Caerdydd ar gau o gât fynediad Penarth i gaffi’r Morglawdd ddydd Mercher, 15 Chwefror o 8am tan 4pm, er mwyn gwneud gwaith cynnal a chadw hanfodol.

Mae disgwyl i’r gwaith gael ei gwblhau mewn un diwrnod, ond mae posibilrwydd y gall ymestyn i ddydd Iau 16 Chwefror.

Bydd pob llong yn gallu cael mynediad drwy’r lociau yn ystod y cyfnod hwn.

Dymuna Awdurdod Harbwr Caerdydd ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra a achosir.




February 8, 2023 3:39 pm.

Rhannu:

Mwy