Gwarchodfa Gwlyptiroedd Bae Caerdydd

Ar ochr ogleddol y Bae, rhwng Gwesty Dewi Sant ac aber Afon Taf, mae’r Warchodfa Gwlyptiroedd yn gartref i amrywiaeth o blanhigion a chreaduriaid ac mae’n lle braf, tawel i ymweld ag ef.

Mae’r Warchodfa wedi ei datblygu ar hen gors heli; mae’n estyn dros tua 8 hectar o dir ac yn cynnwys pwll wedi’i amgylchynu gan gyrch, morlynnoedd, ynysoedd a llochesi adar ar y dŵr. Os ydych yn mwynhau gwylio adar, mae’r mannau gwylio ger Gwesty Dewi Sant ar y llwybr pren yn ardderchog.

Lawrlwythwch y Llwybr Fforio Bywyd Gwyllt ar gyfer plant ac ewch â nhw ar daith llawn hwyl yn y warchodfa.




February 3, 2021 2:49 pm.

Rhannu:

Mwy