Boed eich bod yn brofiadol mewn chwaraeon dŵr neu’n chwilio am rywbeth hollol newydd i’w wneud, mae Canolfan Gweithgareddau Dŵr Bae Caerdydd (CGDBA) yn cynnig ystod o weithgareddau a chyrsiau cynhyrfus. Mae wedi’i lleoli mewn dau leoliad gwych – Canolfan Rhwyfo Caerdydd yng Nghanolfan Hamdden Trem y Môr, a Chanolfan Hwylio Caerdydd ar y Morglawdd.
Gall pobl o bob oed a gallu fwynhau amrywiaeth eang o chwaraeon, megis rhwyfo, hwylio, canwio, hwylfyrddio, pysgota a saethyddiaeth, mewn amgylchedd cyffrous a diogel. Mae CGDBA yn cael ei staffio gan dîm o hyfforddwyr cymwys a phrofiadol, sy’n cynnig rhaglen amlweddog o weithgareddau i’r rhai wyth oed a hŷn. Gall selogion sy’n amrywio o ddechreuwyr i rai proffesiynol gofrestru ar gyfer cyrsiau grŵp, hyfforddiant un i un a sesiynau dan oruchwyliaeth.
February 3, 2021 2:47 pm.
Rhannu: