Canolfan Gelfyddydau’r Eglwys Norwyaidd

Mae’r adeilad trawiadol, amlwg, Canolfan Gelfyddydau’r Eglwys Norwyaidd, yn safle gwych ar gyfer cyfarfodydd, partïon preifat a chyngherddau. Roedd yr adeilad yn eglwys ar gyfer morwyr o Norwy. Bedyddiwyd yr awdur straeon plant enwog, Roald Dahl, yno a daeth yn Llywydd cyntaf Ymddiriedolaeth Gadwraeth yr Eglwys Norwyaidd yn y 1980au.

Heddiw, mae’r ganolfan yn gartref i Oriel Dahl ar gyfer arddangosiadau lleol a rhai ar daith; mae ystafell Grieg ar gael ar gyfer cynadleddau a digwyddiadau, yn ogystal â bar a chaffi Norsk sydd â thrwydded lawn.




February 9, 2021 12:41 pm.

Rhannu:

Mwy