Digwyddiad parc sglefrio morglawdd – Dydd Sadwrn 17 Mehefin

Bydd man sglefrio Morglawdd Bae Caerdydd yn cynnal digwyddiad sglefrfyrddio stryd Gemau Stryd yr Urdd ddydd Sadwrn 17 Mehefin (mae’r cofrestriad yn agor am 9am, gyda sesiwn gynhesu am 10am).

Yn cynnwys grisiau, rheiliau a rampiau o fewn ardal arwyneb cymysg 1,100 metr sgwâr, parc sglefrio Morglawdd yw’r lleoliad delfrydol i sglefrwyr o bob gallu arddangos eu sgiliau. Bydd cystadleuwyr yn brwydro mewn gwahanol gategorïau, gan gynnwys plant dan 12 oed, 12-16 oed ac unrhyw oedran.

Bydd y parc sglefrio ar gau i’r cyhoedd ar gyfer y digwyddiad, ond gwahoddir sglefrwyr i gofrestru i gymryd rhan yn y gystadleuaeth. Mae cofrestru yn costio £5 a gellir ei gwblhau ar-lein: https://www.cognitoforms.com/UrddGobaithCymru/GemauStrydParcSglefrioUrddUrbanGamesSkatepark2023

Bydd hefyd ardal ‘dewch i roi cynnig arni’ ger y parc sglefrio i newydd-ddyfodiaid fwynhau sesiwn sglefrfyrddio gyda hyfforddwr cymwys.

Sylwer bod y digwyddiad hwn wedi’i drefnu ar gyfer dydd Sadwrn 17 Mehefin, ond os na all fynd yn ei flaen oherwydd tywydd gwael, bydd yn cael ei gynnal ar ddydd Sul 18 Mehefin yn lle.

Mae’r gystadleuaeth sglefrfyrddio yn rhan o gyfres o gystadlaethau chwaraeon rhydd, fel BMX, sgwter a phêl-fasged 3×3, a gynhelir yn y Bae o ddydd Sadwrn 17 – dydd Sul 18 Mehefin fel rhan o’r Gemau Stryd. Am fwy o wybodaeth, ewch i gemaustryd.urdd.cymru/.




June 6, 2023 3:41 pm.

Rhannu:

Mwy